Bu farw’r cartwnydd Cen Williams ddechrau’r wythnos yn 74 oed.
Mi fu yn darparu cartŵn yn wythnosol i Golwg hyd at fis diwethaf, pan gafodd ei daro yn wael gan y coronafeirws.
Yn ei gartŵn olaf un i’r cylchgrawn ar Ebrill 23, roedd Cen Williams yn talu teyrnged i’w ffrind Dafydd Huws, awdur Dyddiadur Dyn Dwad.
Cen Williams wnaeth greu’r llun o fat cwrw ar glawr Dyddiadur Dyn Dwad, ynghyd â’r cartwnau oedd i’w gweld y tu fewn i’r llyfr llawn straeon digrif am ‘Goronwy Jones’, y Cofi symudodd i Gaerdydd.
Yn ei gartŵn olaf un i Golwg, mae braich yn codi peint o chwerw a’r geiriau: ‘Cysga’n dawel Gron’.
“Ro’n i’n gyfarwydd â gwaith Cen ers dyddiau’r Dyn Dwad ac, i fi, ei gymeriadau cartŵn o, nid y cymeriadau teledu, sy’n crisialu’r straeon,” meddai Dylan Iorwerth, sylfaenydd Golwg.
“Mi ddaliodd yr anwyldeb, y blerwch a’r diawledigrwydd i’r dim.”
Ac mi wnaeth Cen Williams ddiwrnod da o waith i gylchgrawn Golwg hefyd, yn ôl Dylan Iorwerth.
“Peth anodd ofnadwy ydi dyfeisio cartŵn newydd trawiadol bob wythnos am flynyddoedd maith, a gwneud hynny yn ffresh a gwahanol bob tro.
“Mi lwyddodd Cen i wneud hynny. Nid hiwmor ha-ha-ha oedd ganddo fo ond hiwmor slei, cyfrwys … yn aml roedd angen meddwl ychydig i ddeall yr ergyd.
“Roedd o hefyd yn hoff o eiriau, a chwarae ar eiriau yn weledol yn rhan o’i gamp o. Ond yn rhyfedd iawn, cofio rhai o’r cartwnau dwys y bydda’ i, fel yr un pan fuodd farw Kyffin Williams a’r cartŵn, trwy ddynwared arddull yr arlunydd, yn rhoi tro dwysach i’r cofio.”
Fe gafodd Cen Williams ei fagu ym mhentref Gwalchmai ym Môn cyn troi am Gaerdydd ar gyfer ei ddyddiau coleg.
Roedd yn bêl-droediwr dawnus ac yn un o’r criw wnaeth sefydlu Clwb Pêl-droed Cymry Caerdydd yn 1969.
Ac mae Siôn Jobbins, Cadeirydd YesCymru, yn cofio Cen Williams yn un o’r criw fu’n cynnal Aelwyd yr Urdd yn Ysgol Gynradd Bryn Taf yng Nghaerdydd yn y 1970au.
“Roedd e’n gwneud y stwff yma o’i wirfodd ac roedd e’n grêt i ni’r plant achos roedd e’n dda gyda Celf, ac yn apelio i blant – ond yn arbennig i blant oedd efallai ddim yn hyderus yn eu Cymraeg.
“A hefyd roedd e’n licio pêl-droed felly roedd e’n gymeriad hoffus y bydde’r bechgyn yn dod ymlaen gyda…
“Ac mae gen i gymaint o barch i’r genhedlaeth yna, y criw wnaeth sefydlu’r Gymraeg yn iaith gymdeithasol yng Nghaerdydd.
“Tan y 1960au hwyr roedd hi’n iaith y capel, i bob pwrpas.
“Ond daeth symudiad o bobol i mewn ac roedden nhw wedi creu diwylliant Cymraeg yng Nghaerdydd. Ac roedd Cen yn un o’r rheiny.”
Ac fe lwyddodd cartŵns Cen Williams i ddal ysbryd y cyfnod, yn ôl Siôn Jobbins.
“I fi, ei lunie fe ydy Caerdydd y 1970au. Y rhai yn Y Dinesydd ac yn Dyddiadur Dyn Dwad.
“Dyna ydy’r portread mwya’ eang o’r mudiad iaith a gwleidyddiaeth y cyfnod…
“Mae pobol yn dweud bod y diwylliant Cymraeg yn un ysgrifenedig a cherddorol, ond gyda Cen roedd ganddo chi’r ochr ddarluniol. Roedd e wedi gallu darlunio’r diwylliant Cymraeg cyfoes drwy gartŵns, a dangos cymdeithas Gymraeg ar adeg pwysig a diddorol pan oedd yna newid radical.”
Bu Cen Williams yn gwerthu ei gartŵns ar gais, gan roi’r arian at elusen fu’n helpu dioddefwyr myasthenia gravis, cyflwr sy’n effeithio ar y cyhyrau a chyflwr y bu ei chwaer yn dioddef ohono.
Ei waith “yn adnabyddus i genedlaethau o blant Cymru”
Cen Williams wnaeth greu’r cloriau eiconig ar gyfer y gyfres o albyms Cwm Rhyd y Rhosyn wnaeth Dafydd Iwan ac Edward eu recordio.
Roedd pedair albym yn cynnwys clasuron fel ‘Dau gi bach’ ac ‘Mi welais Jac-y-do’, ac o’r recordiau fe ddaeth llyfrau lliwio a phosteri – pob un yn cynnwys darluniau Cen Williams.
“Mi ges i’r fraint o gydweithio gyda Cen ers y 1970au,” meddai Dafydd Iwan.
“Cen oedd yn bennaf gyfrifol am ddatblygu’r delweddau sy’n cyd-fynd gyda’r caneuon, a fo yn wir sydd wedi troi’r caneuon a’r stori yn lluniau mor drawiadol.
“Roedd ganddo’r ddawn i fynd i fyd y plant ac mae ei waith ar gloriau’r recordiau, y cryno ddisgiau, y llyfrau a’r posteri yn adnabyddus i genedlaethau o blant Cymru.
“Roedd cydweithio gyda Cen bob amser yn bleser a doedd dim yn ormod o drafferth iddo.”