Er gwaetha’r cyfnod clo, a thra bod llawer ohonom yn segura dan do, mae athro ysgol gynradd wedi llwyddo i golli tair stôn a hanner mewn saith wythnos.

Un o Gaernarfon yw Iestyn Owen Hopkins, 28, sydd bellach yn pwyso 16 stôn ac yn byw yng Nghaerdydd.

Dros yr wythnosau diwethaf mae wedi bod ynghlwm â rhaglen colli pwysau FFIT Cymru ar S4C.

Oherwydd y cyfyngiadau Covid-19, bu’n rhaid iddo ffilmio’i hun yn cwblhau gwahanol dasgau.