Fe gynigiodd Cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli ddechrau cynnal gwersi Cymraeg am ddim, yn dilyn ymateb brwd i ddarlith Mererid Hopwood ar y We brynhawn Llun.
Y bardd o Gaerfyrddin oedd yn traddodi’r ‘Anthea Bell Lecture’ eleni o glydwch ei sgiw dderw gartre, yn rhan o’r Hay Festival Digital, ar y testun ‘What’s Wales in Welsh?’
Guto Harri oedd yn cyflwyno o’i gartre yntau. Mae’r ŵyl fawr yn cynnig arlwy ar-lein yr wythnos yma – fel Eisteddfod T ac AmGen.