Er bod y sefyllfa gyda Covid-19 wedi gwella yng Ngwent, mae “dal angen gofyn nifer o gwestiynau” am beth aeth o’i le yno, yn ôl Aelod o’r Senedd.
Mae’r ardal dan awdurdod Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, a thua dechrau’r argyfwng cafodd ei alw’n “hotspot” coronafeirws gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Gwent sydd wedi bod â’r nifer uchaf o achosion yng Nghymru, sef 2,498.
Ac mae 261 wedi marw o’r coronafeirws yno – dim ond Bwrdd Cwm Taf sydd â nifer uwch, sef 271.