Mae pôl piniwn gan ITV, ar y cyd â Savanta ComRes, wedi cofnodi y byddai 39% nawr yn pleidleisio ‘ie’ mewn refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.
Gwnaed y pôl ar gyfer rhaglen UK: The End of the Union? a fydd yn cael ei darlledu ar ITV heno (nos Iau 4 Mawrth) am 7:30pm.
Gan eithrio pobl a atebodd ‘ddim yn gwybod’, dywedodd 39% y byddent yn pleidleisio ‘Ie’ pe bai refferendwm yn cael ei gynnal yfory.
Dangosodd y pôl hefyd, pe bai refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei gynnal yfory, y byddai mwyafrif o bobl Cymru yn pleidleisio i ailymuno.
Gwledydd eraill
Yn ôl y pôl, eto gan eithrio atebion ‘ddim yn gwybod’, byddai 53% o bobl yr Alban yn pleidleisio i adael y Deyrnas Unedig pe bai refferendwm ar annibyniaeth yn cael ei alw yfory.
Byddai 47% yn pleidleisio i aros yn y DU.
Yng Ngogledd Iwerddon, pe bai pleidlais yn cael ei chynnal yfory, byddai 57% yn pleidleisio i aros yn y Deyrnas Unedig a 43% i ailuno ag Iwerddon.
Mae’r pôl hefyd yn nodi bod ymatebwyr o Loegr yn fwy tebygol nag ymatebwyr yn y gwledydd eraill o ystyried hunaniaeth Lloegr yn gyfystyr â hunaniaeth Brydeinig.
- Gallwch ddarllen sylwadau Dr Richard Wyn Jones am ei ymchwil i ‘seisnigrwydd’ a hunaniaeth y Saeson yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon, isod.
Ceisio “gwneud synnwyr” o Seisnigrwydd
Ymateb
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymateb i ganfyddiadau pôl ITV.
Dywedodd llefarydd: “Y Deyrnas Unedig yw’r undeb wleidyddol ac economaidd mwyaf llwyddiannus a welodd y byd erioed, ac mae’r pandemig hwn a’n hymateb ar y cyd, o’r cynllun ffyrlo i gaffael brechlynnau a chefnogaeth ein personél milwrol, wedi dangos ein bod ar ein cryfaf pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd tuag at nod cyffredin.
“Mae’r Prif Weinidog yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gryfhau a lefelu i fyny bob rhan o’r wlad drwy rymuso cymunedau lleol a diwygio llywodraeth ganolog.
Mae e wedi bod yn glir bod pob rhan o’r DU yn gryfach gyda’i gilydd a bydd bob amser yn sefyll yn erbyn y rhai sy’n ceisio gwahanu’r Deyrnas Unedig.
“Nawr yn fwy nag erioed, mae pobl eisiau gweld Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig yn cydweithio i ddiogelu bywydau a bywoliaethau ar draws ein gwlad”.
Ymatebodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price i’r pôl hefyd, gan ddweud: “Mae hyn yn cadarnhau’r farn gynyddol bod yr Undeb yn ffaelu pob rhan o’r Deyrnas Unedig y tu hwnt i swigen San Steffan.
“Dylai penderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, mae hwn yn fater syml o ddemocratiaeth y mae’r Torïaid a Llafur yn ei wrthwynebu.”
Dywedodd Mick Antoniw AoS, sy’n un o’r ffigurau mwyaf blaenllaw yn Llafur Cymru sy’n dadlau o blaid “ffederaliaeth radical” newydd i’r Deyrnas Unedig: “Does dim dwywaith bod mwy a mwy o bobl yng Nghymru eisiau newid ein perthynas â San Steffan. Mae hyn wedi’i ysgogi’n bennaf gan lywodraeth Dorïaidd sy’n benderfynol o ganoli grym yn Stryd Downing, a’i methiant i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar bolisïau a diwygiadau allweddol.
“I rai, mae hyn ar ffurf galwadau am annibyniaeth ac eraill, ffederaliaeth radical. Mae’r berthynas bresennol rhwng llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru yn gynyddol gercrus ac anghysylltiedig.
“Rwy’n credu mai nawr yw’r amser am “Gonfensiwn Pobl” Cymru i gynnwys pobl Cymru wrth benderfynu beth ddylai llywodraethu Cymru yn y dyfodol fod – a’n perthynas â gweddill y Deyrnas Unedig. Bydd methu â chroesawu newid gwirioneddol yn arwain at chwalu’r Deyrnas Unedig.”
- Gallwch ddarllen mwy am gynigion Mick Antoniw a’i gydaelodau am “ffederaliaeth radical” yn Golwg 14 Ionawr, isod
Prydain ffederal: ymdrech i annog dadl “ddifrifol” o fewn y Blaid Lafur
Dywedodd Laura McAllister, athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, fod y pol newydd fel petai’n dangos “cynnydd dramatig” yn y gefnogaeth i annibyniaeth.
Dywedodd: “Rydym yn gwybod bod twf wedi bod yn y rhai sy’n galw eu hunain yn ‘chwilfrydig am annibyniaeth’ ac, o ystyried bod arolygon barn wedi dangos yn gyson mai’r grwpiau oedran ieuengaf sy’n gyfrifol am y lefelau mwyaf o gefnogaeth i annibyniaeth, mae hyn i gyd yn awgrymu y bydd annibyniaeth yn broblem fyw yn etholiadau’r Senedd a thu hwnt.”
Rhesymau
Mae’r pôl hefyd yn mynd i’r afael â rhesymau pobl am eu safbwynt.
Y prif resymau pam y byddai pobl yn pleidleisio dros annibyniaeth i Gymru oedd:
Teimlo bod gan Gymru agweddau cymdeithasol gwahanol i’r Deyrnas Unedig (53% o bleidleiswyr ‘ie’)
Teimlo bod Cymru yn genedl ar wahân yn hanesyddol (51% o bleidleiswyr ‘ie’)
Credu y bydd Cymru’n gwneud yn well os yw’n annibynnol (46% o bleidleiswyr ‘ie’)
Anhapus ag ymateb pandemig y Deyrnas Unedig (39% o bleidleiswyr ‘ie’)
Mwy o ymddiriedaeth yn Senedd Cymru na San Steffan (36% o bleidleiswyr ‘ie’)
Y prif amheuon ymhlith pleidleiswyr ‘Ie’, os o gwbl, oedd:
Yr economi (46% o bleidleiswyr ‘ie’)
Y gallu i deithio a gweithio’n rhydd yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig (32% o bleidleiswyr ‘ie’)
Posibilrwydd o safon byw is (29% o bleidleiswyr ‘ie’)
Roedd y prif resymau dros bleidleisio yn erbyn annibyniaeth, yn ôl y rhai a ddywedodd y byddent yn pleidleisio ‘Na’, fel a ganlyn:
Teimlad bod Cymru’n gryfach yn y Deyrnas Unedig (79% o bleidleiswyr ’na’)
Cred fod Cymru yn rhan bwysig o’r Deurnas Unedig (60% o bleidleiswyr ’na’)
Cred y bydd Cymru’n gwneud yn well yn economaidd yn y Deyrnas Unedig (50% o bleidleiswyr ’na’)
Posibilrwydd o safon byw is (35% o bleidleiswyr ’na’)