Mae Brwsel wedi rhybuddio y bydd yn cymryd camau cyfreithiol yn “fuan iawn” ar ôl i’r Deyrnas Unedig ohirio cyflwyno rhan o gytundeb Brexit sy’n ymwneud a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd Maros Sefcovic bod cyhoeddiad y Llywodraeth ddydd Mercher wedi bod yn “syrpreis negyddol iawn”.

Mae’n dilyn cyhoeddiad y gweinidog yn Swyddfa’r Cabinet yr Arglwydd Frost i ohirio’r broses o wirio rhai nwyddau sy’n cyrraedd Gogledd Iwerddon, sy’n parhau’n rhan o farchnad sengl yr UE ar gyfer nwyddau.

Dywedodd yr Arglwydd Frost ei fod wedi gwneud y penderfyniad tra bod y DU yn gwneud trefniadau mwy parhaol.

Ond mae hyn wedi ennyn ymateb chwyrn gan Frwsel, gyda’r Undeb Ewropeaidd yn cyhuddo Prydain o wneud tro pedol ar rwymedigaethau cytundeb Brexit oedd a’r bwriad o sicrhau nad oedd ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth.

Mewn cyfweliad gyda’r Financial Times, dywedodd Maros Sefcovic bod y Comisiwn Ewropeaidd bellach yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU.

Roedd Boris Johnson wedi ceisio lleddfu’r tensiynau drwy ddweud bod y Llywodraeth yn cymryd “mesurau technegol dros dro” er mwyn sicrhau bod masnach yn parhau.

“Rwy’n siŵr bod modd datrys y problemau technegol yma gydag ychydig o ewyllys da a synnwyr cyffredin,” meddai’r Prif Weinidog ddydd Iau (Mawrth 4).

Bwriad protocol Gogledd Iwerddon yn y cytundeb Brexit oedd osgoi ffin galed yn Iwerddon. Mae’n golygu bod Gogledd Iwerddon yn gorfod cadw at nifer o reolau’r UE, sy’n golygu gwirio nwyddau sy’n cyrraedd yno o Brydain.

Y ffrae dros brotocol Gogledd Iwerddon

Golwg ar y ffrae sy’n datblygu dros y protocol ddaeth yn sgil Brexit