Mae nifer y cerbydau trydan ar ffyrdd Prydain wedi cynyddu 53% mewn blwyddyn, yn ôl gwaith ymchwil newydd gan yr RAC.

Ond er y cynnydd, mae’r nifer o geir trydan yn ne Cymru yn isel iawn iawn.

Cafodd tua 86,130 o gerbydau trydan eu trwyddedu ar ddiwedd mis Medi’r llynedd, o’i gymharu â 56,393 ar yr un adeg yn 2019.

Mae pedair o’r 10 ardal awdurdod lleol sydd â’r nifer fwyaf o gerbydau trydan batri trwyddedig preifat (BEVs) yn Llundain, gydag ardal Barnet ar y blaen gyda 1,235 o geir trydan.

Wiltshire sydd yn ail gyda 1,075 o gerbydau, ac yna San Steffan yng nghanol Llundain (919), Cernyw (899), a Camden, gogledd Llundain (781).

Dim ond 21 o’r cerbydau sydd gan Ferthyr Tudful, tra bod gan Flaenau Gwent 27.

Gwahardd petrol a disel

Mae’r ffigurau wedi’u seilio ar ddadansoddiad yr RAC o ddata’r Llywodraeth.

O 2030 ymlaen mi fydd gwaharddiad ar werthu ceir a faniau petrol a disel newydd.

Dywedodd llefarydd dadansoddi data’r RAC, Rod Dennis: “Mae’r twf mewn cerbydau trydan yn addawol dros ben.

“Mae llawer i’w wneud eto, yn enwedig gan mai dim ond hanner y cerbydau hyn sydd mewn dwylo preifat, o’i gymharu â naw o bob 10 o’r holl geir, ond mae’n amlwg mai dim ond un ffordd y mae’r niferoedd yn mynd.

“Mae’n bwysig bod y manteision amgylcheddol ac ariannol a gynigir gan y newid i geir trydan yn cael eu rhannu gan yrwyr ledled y wlad.

“Mae ein dadansoddiad yn dangos i ba raddau y mae De a Dwyrain Lloegr yn dominyddu ar hyn o bryd o ran y niferoedd sydd mewn dwylo preifat ar hyn o bryd.”