Mae dwsinau o Gristnogion wedi heidio i eglwys yn Baghdad oriau cyn i’r Pab Francis lanio yn Irac ar gyfer ymweliad cyntaf gan unrhyw Bab yn hanes y wlad.

Ymgasglodd dynion, menywod a phlant y tu mewn i Eglwys y Forwyn Fair yn gynnar fore Gwener.

Yn ôl adroddiadau, nid oedd llawer ohonyn nhw yn gwisgo mygydau nac yn cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol, gan eistedd yn agos at ei gilydd.

Roedd disgwyl iddyn nhw gael eu cludo i’r maes awyr mewn bysiau i groesawu’r Pab, fel sy’n arferol pan mae pennaeth yr Eglwys Gatholig yn ymweld ag unrhyw wlad.

Mae’r ymweliad wedi codi gwrychyn arbenigwyr iechyd y cyhoedd, sy’n ofni y bydd hi’n anochel y bydd torfeydd mawr yn ymgynnull i weld y Pab.

Mae pandemig y coronafeirws yn gwaethygu yn Irac gyda math mwy heintus yno na’r un gafwyd gyntaf yng ngwledydd Prydain.