Mae gweithwyr yn Airbus, y cwmni cynhyrchu awyrennau sy’n gyflogwr enfawr yn y Gogledd-ddwyrain, wedi pleidleisio i dderbyn wythnos waith fyrrach gyda’r nod o achub swyddi.

Cefnogodd aelodau undeb Unite yn ffatri’r cwmni ym Mrychdyn fargen a negodwyd rhwng yr undeb ac Airbus a fydd yn gweld gostyngiad o 5%-10% yn yr wythnos waith am gyfnod byr.

Dywedodd Unite y bydd y cytundeb yn dileu’r posibilrwydd o ddiswyddiadau gorfodol ac yn darparu ’map ffordd’ i ailddechrau gweithio’n llawn-amser unwaith y bydd argyfwng Covid-19 wedi cilio.

Dywedodd Peter Hughes, ysgrifennydd rhanbarthol Unite yng Nghymru: “Er nad yw’n ddelfrydol bod ein haelodau wedi gorfod ymrwymo i wythnos waith fyrrach, dylid ystyried y penderfyniad hwn yng nghyd-destun argyfwng digynsail byd-eang ym maes awyrennau a hedfan.

“Mae’r ateb hwn i’r argyfwng a wynebir gan Airbus yn un y gellid ei ddefnyddio mewn safleoedd gweithgynhyrchu eraill ledled Cymru er mwyn osgoi diswyddiadau ar raddfa fawr.

“Mae’r cyfnod digynsail hwn yn gofyn am atebion creadigol.

“Mae aelodau Unite wedi gwneud y penderfyniad anhunanol i leihau eu horiau a thalu i sicrhau swyddi eu cyd-weithwyr.

“Yn y pen draw, gweithred o undod yw hyn, a hynny gan weithlu o’r radd flaenaf.”

Ychwanegodd Daz Reynolds, cydgysylltydd Unite yn Airbus: “Mae tîm yr undebau llafur yn Airbus wrth eu bodd bod y gweithlu wedi cefnogi’r cynnig rydym wedi’i drafod gydag Airbus i achub swyddi.

“Mae hwn yn fesur tymor byr a fydd yn diogelu swyddi medrus iawn ym Mrychdyn, gan gynnwys y prentisiaid yn eu pedwaredd flwyddyn sy’n chwilio am ddyfodol hirdymor gydag Airbus.”