Mae cyn-athro wedi osgoi carchar am osod poteli wedi’u labelu â ‘Novichok’ mewn yng Nghastell Penfro ychydig fisoedd ar ôl digwyddiadau gwenwyn Salisbury.

Rhoddodd John ap Evans, 67, boteli o sylwedd gwenwynig ffug, wedi’i wneud o saws tomato a saws brown wedi’i gymysgu â dŵr, yn ‘Cavern Wogan’ yng Nghastell Penfro ar bum achlysur gwahanol ym mis Gorffennaf 2018.

Cafodd dau o’r poteli eu labelu â ‘Novichok’, yr asiant nerfol marwol a ddefnyddiwyd i ymosod ar asiant dwbl Rwsia, Sergei Skripal, a’i ferch Yulia y mis Mawrth blaenorol.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod ap Evans wedi cael ei arestio ar ôl i gamera cudd a osodwyd yn yr atyniad ffilmio rhywun – a thrwy hap a damwain bu i un o swyddogion yr heddlu ei adnabod yn ddiweddarach yn cerdded ger ei gartref.

Novichok

Dywedodd Simon Davis, oedd yn erlyn: “Daeth y cemegyn o’r enw Novichok yn hysbys i bawb ar ôl i Sergei Skripral, ei ferch Yulia, a’r Ditectif-Sarjant Nick Bailey, ddioddef ymosodiad asiant nerfol yn Salisbury ym mis Mawrth 2018.

“Cafodd effeithiau’r cemegyn eu gwneud yn hysbys ymhellach ar ôl i Dawn Sturgess a Charlie Rowley gael eu gwenwyno yn Amesbury ym mis Mehefin 2018. Bu farw Dawn Sturgess wedyn, o ganlyniad i’r gwenwyn, ar 8 Gorffennaf.

“Manylwyd ar y digwyddiadau hynny mewn adroddiadau newyddion cenedlaethol.”

Dywedodd Mr Davis fod ap Evans wedi gwneud nifer o chwiliadau ar y rhyngrwyd, gan gynnwys chwilio am “Salisbury nerve agent attack: the truth”, “Novichok formula”, “victims of Parsons Green” a “where are the Skripals?

Clywodd y llys, ar ôl i’r botel gyntaf gael ei darganfod gan aelod o’r cyhoedd ar 13 Gorffennaf, fod y castell wedi’i wagio a’i gau.

Cafodd arbenigwyr o Porton Down, oedd yn gweithio ar wenwyn Salisbury ar y pryd, eu hanfon i Sir Benfro i ymchwilio.

Profwyd samplau o’r hylif ac ni allai gwyddonwyr ddod o hyd i olion unrhyw wenwyn hysbys.

Mewn datganiad personol, dywedodd gofalwr y castell, Jason Kenny, bod y digwyddiadau wedi achosi “cymaint o bryder”.

“Mae dim ond clywed y gair ‘Novichok’ yn gwneud i chi feddwl am ddigwyddiad Salisbury lle bu farw pobl,” ychwanegodd.

‘Creu gwaith celf’

Yn dilyn ei arestio, cyfaddefodd ap Evans a dywedodd ei fod wedi gwneud hynny fel “tipyn o hwyl”.

“Credai fod y peth Novichok yn Salisbury yn gelwydd ac nid oedd yn gwybod pam ei fod wedi gwneud hynny,” meddai Mr Davis.

Yn ddiweddarach, ceisiodd ap Evans honni ei fod yn creu gwaith celf ar gyfer Gwobr Turner.

“Roedd wedi ysgrifennu ar y poteli fel jôc i weld a fyddai’r ‘celfyddyd hurt’ hon fel y’i disgrifiodd, yn ennill Gwobr Turner,” meddai Mr Davis.

“Aeth â 12 potel i fin ailgylchu pan ddaeth dau ddyn ato yr oedd yn amau eu bod yn werthwyr cyffuriau.

“Fe wnaethon nhw gymryd y poteli oddi wrtho, gan awgrymu mai nhw oedd yn gyfrifol am roi’r poteli y tu mewn i’r castell.”

Mewn gwrandawiad cynharach plediodd ap Evans, o Stryd Northgate, Penfro, Sir Benfro, yn euog i bum cyfrif o dwyllo gyda sylwedd gwenwynig o dan adran 114 o Ddeddf Gwrth-derfysgaeth, Trosedd a Diogelwch 2001.

Dywedodd ap Evans, wrth gynrychioli ei hun, ei fod yn ceisio creu gwaith celf.

“Doedd dim byd maleisus ym mha beth bynnag roeddwn i wedi’i wneud,” meddai.

“Twp a ffôl”

Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC bod ap Evans wedi achosi llawer iawn o aflonyddwch ar y gwasanaethau brys, a cholled ariannol i’r castell.

“Er gwaethaf eich protestiadau, roedd yn gyfres gwbl faleisus o dwyllo – yn fwriadol, dro ar ol tro, ac wedi’u cynllunio ymlaen llaw,” meddai’r barnwr.

“Cafodd y pedwar potel olaf, er na wnaethant sbarduno’r un ymateb, eu rhoi yno gennych chi gan wybod beth oedd wedi digwydd o’r blaen a’r cyhoeddusrwydd yr oedd wedi’i ddenu, a does gen i ddim amheuaeth fod hynny’n ddoniol i chi.

“Rydych chi, yn nhermau academaidd, yn ddyn deallus, ond rydych chi, fodd bynnag, yn un anhygoel o dwp a ffôl.

“Mae gennych lawer o gredoau dwl ac rydych yn dioddef o feddyliau gwirion am amrywiaeth o bynciau.

“Mae’n flin gennyf ddweud eich bod mewn sawl ffordd yn unigolyn trist a truenus a oedd am ddod â rhywfaint o gyffro i’w fywyd drwy gychwyn ar y dwli yma.”

Gosododd y barnwr ddedfryd o 21 mis o garchar, wedi’i atal am ddwy flynedd, a gorchmynnodd ap Evans i gwblhau 200 awr o waith di-dâl a mynychu diwrnodau gweithgarwch adsefydlu.

Gorchmynnwyd iddo hefyd dalu £2,400 o iawndal i’r castell.