Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, wedi cyhoeddi y bydd pobol sy’n cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan ap Covid-19 y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gymwys i wneud cais am y taliad cymorth hunanynysu o £500.

O heddiw (Chefror 1) ymlaen, bydd defnyddwyr yr ap sy’n cael gwybod eu bod wedi dod i gysylltiad â’r feirws, ac sydd ar incwm isel ac mewn perygl o ddioddef caledi ariannol, yn gymwys – ynghyd â phobol sydd wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu; a rhieni y mae lleoliad addysg wedi gofyn i’w plentyn hunanynysu.

Bydd gofyn i ddefnyddwyr wneud cais am y taliad drwy gysylltu â’u hawdurdod lleol, ond bydd angen iddynt ddangos tystiolaeth bod yr ap wedi gofyn iddynt hunanynysu yn ogystal â thystiolaeth o incwm isel wrth wneud cais.

Bydd awdurdodau lleol yn gallu derbyn a phrosesu ceisiadau am daliadau o ddydd Gwener (Chwefror 5).

‘Diogelwch ariannol’

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu iechyd a llesiant pobol a byddwn yn parhau i gefnogi pobl Cymru yn ystod y cyfnod anodd hwn,” meddai’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

“Mae’r taliad o £500 eisoes wedi rhoi diogelwch ariannol i bobl sydd wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu, gan helpu i dorri’r cylch trosglwyddo a sicrhau nad oes rhaid i unrhyw un ddewis rhwng aros gartref a methu bwydo eu teulu, neu fynd i’r gwaith ac, o bosib, lledaenu’r feirws.

“Mae Awdurdodau Lleol unwaith eto wedi wynebu’r her o sicrhau bod pawb sydd angen cymorth ariannol drwy gydol y pandemig yn ei gael wrth inni gwblhau’r gwaith o alluogi i bobl wneud cais yn uniongyrchol drwy’r ap.

“Maent eisoes wedi bod yn gweithio’n ddiflino a hoffwn ddiolch iddynt unwaith eto am eu gwaith caled a’u hymroddiad.

“Byddaf yn parhau i adolygu’r cynllun i sicrhau bod y bobl sydd â’r angen mwyaf yn cael y cymorth y maent ei angen i hunanynysu a lleihau trosglwyddiad y feirws.”

Problemau â’r system yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig

Fodd bynnag, mae Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns AoS, wedi dweud bod gweithrediad y cynllun yn “ddryslyd” – ac yn “anfanteisiol i’r rhai sydd wir angen y taliad”.

“Ar wahân i’r ffaith fod datganiad Llywodraeth Cymru yn ddryslyd, dylai’r ap fod wedi’i baratoi cyn i’r cynllun hwn gael ei agor,” meddai Angela Burns.

“Fodd bynnag, yr hyn sy’n amlwg yw na ellir ôl-dyddio ceisiadau i fis Medi o hyd, sy’n golygu na all pobl yng Nghymru sydd angen y taliad hwn o £500 – ac sy’n debygol o ddod o dan y categori bregus yn ariannol – gael gafael arno ac felly maent o dan anfantais fawr.

“Ni all Llywodraeth Cymru longyfarch ei hun am hyn, ond mae’n rhaid iddi gywiro’r gallu i wneud cais am ôl-daliad – a rhoi trefn ar yr ap yn hytrach na’r cynllun hybrid y mae wedi’i roi ar waith.”