Mae’r cyn-Taoiseach, Bertie Ahern, wedi dweud y dylid cynnal pleidlais ar uno Iwerddon yn 2028, sef 30 mlynedd ers Cytundeb Gwener y Groglith.

Dywedodd cyn-arweinydd Fianna Fail er nad ydi o am weld refferendwm ar uno Iwerddon “am y tro” mai’r adeg iawn i gynnal un fyddai yn 2028.

Ychwanegodd ei fod wedi codi’r mater mewn cyfarfod â chyn-Brif Weinidog Prydain Tony Blair a chyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau Bill Clinton i nodi 20fed pen-blwydd y cytundeb.

‘Mater o sofraniaeth’

“Dywedais bryd hynny fod yn rhaid i ddau beth ddigwydd,” meddai Bertie Ahern wrth Newstalk.

“Un ohonynt yw bod yn rhaid i ni gael sefydliadau o dan Gytundeb Gwener y Groglith a oedd yn sefydlog am gyfnod hir – nid ydym wedi cael hynny ers y cytundeb 23 mlynedd yn ôl.

“Nid wyf yn hoffi’r syniad o ‘bleidlais ar y ffin’ – mater o sofraniaeth ydyw, a sut y bydd yn digwydd.

“Yr ail bwynt wnes i oedd ynghylch gwaith [academaidd] … i wneud synnwyr o hyn i gyd, sydd ddim ond newydd ddechrau. [Pethau fel] yr uned ‘Ynys a Rennir‘ – yr ydw i’n gefnogol ohoni.

“Mae’n rhaid i’r ddau beth hynny ddigwydd ac fel a ddywedais bryd hynny, dylai unrhyw syniad o bleidlais … siŵr o fod gael ei chynnal 30 mlynedd ers Cytundeb Gwener y Groglith, sydd ar ddiwedd y degawd.

“Dydw i ddim yn ei gweld yn cael ei chynnal yn y tymor byr ac rwy’n credu bod yn rhaid cyflawni’r ddau amod hynny cyn gallu cynnal refferendwm.”

Ond pwysleisiodd Mr Ahern bod pleidlais yn rhan o drefniadau Cytundeb Gwener y Groglith.

“Roedd yn ddealltwriaeth – i gael gweriniaethwyr a chenedlaetholwyr i gytuno – y byddai pleidlais rywbryd yn y dyfodol.

“Cafodd hynny ei nodi yn adran gyfansoddiadol Cytundeb Gwener y Groglith a hefyd yng Nghytundeb Prydain-Iwerddon, sef yr atodiad i’r Cytundeb.

“Mae’n rhaid i’r dyhead hwnnw fod yno ac mae’n rhaid ei gyflawni – ond ddim am y tro, dw i ddim yn meddwl.”

51% o blaid refferendwm yn y pum mlynedd nesaf

Daw ei sylwadau ar ôl i bôl piniwn ddangos bod mwyafrif o bobol yng Ngogledd Iwerddon eisiau cael refferendwm ar uno Iwerddon yn pum mlynedd nesaf.

Yr wythnos diwethaf comisiynodd y Sunday Times gyfres o arolygon ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig i fesur agweddau tuag at yr undeb.

Canfu fod pleidleiswyr ledled y Deyrnas Unedig yn credu bod yr Alban yn debygol o ddod yn annibynnol o fewn y degawd nesaf.

Yng Ngogledd Iwerddon, canfu fod 47% am aros yn y Deyrnas Unedig, gyda 42% o blaid Iwerddon unedig a chyfran sylweddol – 11% – heb benderfynu.

Pan ofynnwyd iddynt a ydynt yn cefnogi refferendwm ar Iwerddon unedig o fewn y pum mlynedd nesaf, dywedodd 51% ‘ie’ o a 44% ’na’.