Mae perchnogion busnes ym Mangor wedi bod yn trafod yr heriau o fasnachu ar y Stryd Fawr – sydd wedi bod ar gau i gerbydau ers dros flwyddyn.
Daw hynny, wedi i dân achosi difrod i ddau adeilad ym mis Rhagfyr, 2019.
Achosodd ddifrod strwythurol sylweddol i fwyty Noodle One ac eiddo cyfagos ac mae’r Stryd Fawr ym Mangor wedi bod ar gau i gerbydau ers hynny.
Mae Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Amgylchedd Cyngor Gwynedd wedi cydnabod yr effaith mae’r sefyllfa wedi’i gael ar drigolion a masnachwyr lleol.
“Mae o wedi bod yn disgrace”
“Maen nhw wedi gaddo hyn llall ag arall i ni ond does ’na ddim byd wedi digwydd,” meddai Tony Owen, perchennog More than Beds.
“Yr unig reswm ’da ni’n gwybod bod y gwaith i fod i gychwyn heddiw, ydi drwy Facebook – does ’na neb wedi cysylltu hefo ni o gwbl,” meddai.
“Mae o wedi bod yn disgrace”
Mae’r cwmni, sy’n gwerthu dodrefni, soffas, gwlâu a matresi yn dweud bod y trefniadau’n golygu ei bod hi’n amhosib i lorïau gludo nwyddau.
“’Da ni wedi gorfod hireio conteiners,” meddai’r perchennog, “tri container – sydd wedi costio dros £2,000, i gymryd deliveries – sydd yn Borth.
“Felly bob tro mae ’na delivery – ’da ni’n gorfod mynd allan o’r siop – ella tua phedwar, pum gwaith y diwrnod, mae’n rhaid i ni fynd i Borth i gyfarfod pobol.”
“Dydw i ddim yn obeithiol iawn, chwaith”
Eglura bod y sefyllfa wedi gwneud blwyddyn anodd i’r cwmni, yn anoddach fyth.
“Yn amlwg, mae hi wedi bod yn anndd hefo Covid,” meddai, “ond fedrwn ni ddim helpu hynny – mae’n wahanol hefo’r lôn.
Eglura bod y diffyg brys i ddatrys y sefyllfa a’r diffyg cyfathrebu wedi ychwanegu at eu rhwystredigaeth.
“Mae ’na sôn bod o am gymryd tri mis i wneud y gwaith – maen nhw’n dweud bod y lôn ddim digon cryf i gymryd craen – ond maen nhw’n gwybod hynny ers dros flwyddyn.
“Dydyn ni ddim wedi cael llawer o help – does ‘na neb wedi bod yn cysylltu hefo ni – just wedi ein gadael ni.
“Dydw i ddim yn gwybod os ydyn nhw’n mynd i gychwyn heddiw neu bedio… a dydw i ddim yn obeithiol iawn chwaith.”
“Mae o wedi effeithio’n aruthrol”
“Bore ’ma does ’na ddim sein o ddim byd yn digwydd,” meddai Carys Davies, perchennog So Chic.
“’Da ni wedi cael hyn dwnim faint o weithiau o’r blaen – bod o’n mynd i ddechrau a dim byd yn digwydd.
Eglura bod y sefyllfa wedi cael effaith “aruthrol” ar ben yna’n dref.
“Mae’r scaffold fel wal – fel rhwystr mawr a dydi pobol ddim yn meddwl bod ‘na nunlle heibio fano.
“Mae o wedi rhoi stop ar lot o bobl yn dod i fyny’r stryd. Mae pobol yn ddiog – gan gynnwys fi – ac ar hyn o bryd, does ‘na ddim lle parcio wrth ymyl y siop.
Dywedodd nad oes unrhyw gymorth ymarferol nag ariannol wedi cael ei gynnig i’r llu o fusnesau sydd wedi eu heffeithio.
Er hynny, dywedodd ei bod yn bwysig cadw’n bositif, yn y gobaith y bydd pethau’n symud yn eu blaenau “cyn gynted â phosib.”
“Newyddion calonogol o’r diwedd”
Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, wedi croesawu’r cynlluniau i gychwyn y gwaith dymchwel sy’n “newyddion calonogol o’r diwedd”.
Ychwanegodd ei fod yn “gobeithio bydd pethau’n symud yn ei blaenau yn sydyn.”
Newyddion calonogol o’r diwedd. Mae @siangwenfelin a minnau wedi hir alw am gychwyn ar y gwaith yma. Mae busnesau lleol wedi dioddef blwyddyn anodd iawn rhwng pob dim. Gobeithio bydd pethau yn symud yn ei blaenau yn sydyn. #Bangor https://t.co/fLWLs8vmKI
— Hywel Williams AS/MP (@HywelPlaidCymru) January 29, 2021
Amserlen
Ar gyhoeddi’r gwaith dymchwel, roedd Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Amgylchedd Cyngor Gwynedd, yn cydnabod yr effaith mae’r sefyllfa wedi’i gael ar drigolion a masnachwyr lleol.
“Rwy’n hynod falch felly ein bod wedi cyrraedd sefyllfa lle gall gwaith nawr ddechrau ar y safle, gyda golwg ar ailagor y rhan yma o’r Stryd Fawr i draffig cyn gynted â phosib,” meddai.
“Byddwn yn gofyn am ddiweddariadau a mwy o sicrwydd ar yr amserlen wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.”
Ar y pryd, roedd disgwyl i’r gwaith o ddymchwel yr adeiladau gymryd oddeutu 6 wythnos i’w gwblhau.
Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Gwynedd am ddiweddariad o ran yr amserlen.