Bydd cystadleuaeth Cân i Gymru yn cael ei chynnal ar lwyfan Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm ar Fawrth 5.

Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris fydd yn cyflwyno ar S4C, gyda’r wyth cystadleuydd yn mynd am wobr o £5,000 a thlws Cân i Gymru.

Osian Williams (Candelas), Angharad Jenkins (Calan), y gantores Tara Bethan a’r canwr-gyfansoddwr Huw Chiswell sydd ar y panel eleni.

Ond yn sgil Covid-19, fydd dim cynulleidfa fyw eto eleni gyda chynulleidfa rithwir yn cael ei ffurfio o gartrefi pobol ar hyd a lled y wlad.

“Dwi wrth fy modd fod Cân i Gymru yn ôl unwaith eto eleni,” meddai Elin Fflur.

“Mae’r gystadleuaeth hon wedi bod yn agos at fy nghalon erioed, ond mae gallu ei chynnal eleni yn fwy sbeshal ryw ffordd a hithau wedi bod yn gyfnod mor anodd i gyfansoddwyr ac pherfformwyr.

“Mae gallu cynnig llwyfan i artistiaid led led Cymru yn rywbeth arbennig iawn a hynny eleni ar lwyfan enwocaf Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Am brofiad ffantastig!

“Dwi’n edrych mlaen yn fawr at glywed yr wyth cân ac at gyflwyno’r noson yn fyw efo Trystan.”

Y caneuon

Yr wyth cân fydd yn cystadlu am y wobr eleni yw:

  • Fel Hyn Mae Byw gan Huw Ynyr
  • Dwy Lath ar Wahân gan Roger Llywelyn Henderson a Siân Charlton
  • Y Goleuni gan Mari Elen Mathias
  • Yr Arlywydd gan Steve Williams
  • Y Bobl gan Daniel Williams
  • Hwyliau Llonydd gan Melda Lois Griffiths
  • Siarad yn fy Nghwsg gan Melda Lois Griffiths
  • Bach o Hwne gan Morgan Elwy Williams

Y cyfansoddwyr

Huw Ynyr – Fel Hyn Mae Byw

Mae Huw Ynyr yn 28 mlwydd oed, yn wreiddiol o Rydymain ond bellach yn byw gyda’i gariad Awel yn Nolgellau.

Canwr opera proffesiynnol yw Huw ond mae bellach yn gweithio gartre ar y fferm ers i bethau dawelu oherwydd amgylchiadau’r pandemig.

Graddiodd o Brifysgol Bangor ar ôl astudio Cerddoriaeth yn ogystal â chwblhau cwrs Opera ôl-radd yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.

Yn 2012 enillodd Ysgoloriaeth Bryn Terfel.

Roger Llywelyn Henderson a Sian Charlton – Dwy Lath ar Wahân

Mae Roger Llywelyn Henderson yn wreiddiol o Wrecsam ond wedi bod yn byw yn Abertawe ers hanner canrif.

Mae o’n byw yn Mhant-lasau gyda’i wraig Suzie ac mae ganddyn nhw ddau o blant.

Dyma’r trydydd tro i Roger gyrraedd yr wyth olaf yng nghystadleuaeth Cân i Gymru.

Cyd-gyfansoddodd y gân ‘Calon Gwlad’ gyda Lorraine King yn 1996, ac yna ‘Dol y Bryn’ yn 1997 gyda Peter sef gŵr Sian Charlton.

Daw Siân Charlton yn wreiddiol o Frynhyfryd, Abertawe, ond mae hi bellach yn byw gyda’i gŵr Peter yng Nglais, Abertawe, ac mae ganddyn nhw ddwy o ferched.

Maen nhw wedi bod llwyddiannus ar Gân i Gymru o’r blaen wrth ddod yn drydydd gyda’r gân ‘Sibrwd yn yr Ŷd’ nôl yn 2002 gydag Angharad Brinn yn canu. Cân am Eva Cassidy oedd hi ac fe glywodd rhieni Eva Cassidy y gân a gyrru llythyr yn diolch iddynt am sgwennu cân yn Gymraeg amdani.

Mari Elen Mathias – Y Goleuni

Mae Mari Elen Mathias yn 20 oed ac yn dod o Dalgarreg yng Ngheredigion.

Ar ôl gadael Ysgol Uwchradd Bro Teifi, aeth i astudio cwrs BA perfformio yng Ngholeg Dewi Sant.

Graddiodd y llynedd ac mae hi bellach yn astudio cwrs MA mewn ysgrifennu Cerddoriaeth a Chynhyrchu.

Mae perfformio wedi bod o ddiddordeb iddi ers yn ifanc iawn.

Bu yn y band Raffdam yn 14 mlwydd oed tan iddi adael Ysgol Bro Teifi.

Steve Williams – Yr Arlywydd 

Cafodd Steve Williams ei fagu yn y Bontfaen, ond symudodd y teulu i Bowys pan oedd yn 13 mlwydd oed.

Am bum mlynedd, fe fu’n dditectif yng Ngwynedd, cyn symud i Sir Drefaldwyn i fod yn dditectif yn Heddlu Dyfed Powys.

Nid dyma’r tro cyntaf i Steve ymddangos ar Gân i Gymru.

Nol 2001 bu’n cystadlu gyda’r gân ‘Mynegiant Rhyddid’.

Ei hoff fath o gerddoriaeth yw metel trwm.

Daniel Williams – Y Bobl 

Mae Daniel Williams yn 26 oed ac yn dod o Bentre’r Eglwys ger Pontypridd.

Ar ôl gadael Ysgol Uwchradd Gartholwg, fe aeth i’r brifysgol yng Nghaerdydd i wneud gradd mewn Cyfrifeg.

Mae Daniel wedi chwarae’r gitâr ers blynyddoedd bellach, ond dydy e erioed wedi chware yn gyhoeddus.

Roedd cyrraedd rownd derfynol Cân i Gymru yn sioc fawr i’r system, oherwydd dydy Daniel wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o’r blaen.

Melda Lois Griffiths – Hwyliau Llonydd a Siarad yn fy Nghwsg

Mae dau o gyfansoddiadau Melda Lois Griffiths wedi cyrraedd yr wyth olaf eleni.

Mae hi’n 27 oed ac yn wreiddiol o Lanuwchllyn, ond yn byw yng Nghaerdydd ers 2012.

Mae cerddoriaeth o hyd wedi bod yn rhan o’r teulu gyda’i thad hefyd yn canu ac yn aelod o Gôr Godre’r Aran.

Mae’r syniad o ennill Cân i Gymru wastad wedi bod yna’n dawel yng nghefn ei meddwl.

Mae cael bod yn yr wyth olaf, yn enwedig gyda dwy o’i chyfansoddiadau yn meddwl y byd iddi.

Morgan Elwy Williams – Bach o Hwne

Mae Morgan Elwy Williams yn 25 oed ac yn wreiddiol o Dan y Fron ger Llansannan, ond yn byw yng ngogledd Llundain ers 2019.

Mae Morgan wedi bod adre gyda’i deulu ers cyn y Nadolig.

Daeth yn ôl yn arbennig i roi aren i’w chwaer sydd wedi bod yn disgwyl am y llawdriniaeth ers amser hir.

Y llynedd bu’n ffodus o gael yr holl amser yn y cyfnod clo i recordio ei albwm newydd.

Mae’n gobeithio bydd yr albwm allan ym mis Ebrill eleni.

Mae’n dod o deulu cerddorol iawn.

Roedd ei frawd Jacob wedi cystadlu yng Nghân i Gymru y llynedd a’r flwyddyn cynt, yn canu deuawd gyda Mared Williams.