Mae Theatr na nÓg wedi sefydlu cydweithrediad newydd gyda thri lleoliad arall, sef ‘Y Consortiwm Cymraeg’.

Y bwriad yw cyflwyno theatr Gymraeg o safon ac maen nhw’n anelu at gynhyrchu rhaglen i gymunedau gyfranu atyn nhw i wella eu sgiliau iaith ac i feithrin perthynas â’r celfyddydau a’r diwylliant.

Ymunodd Theatr Soar ym Merthyr Tudful, Neuadd Les Ystradgynlais, a Neuadd y Dref Maesteg â Theatr na nÓg i ailgynnau bywiogrwydd a gwerth y lleoliadau hyn yn eu cymunedau.

Mae’r Consortiwm newydd yn cael ei gefnogi gan Grant Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.

Dywed y Consortiwm fod yr angen am hwb creadigol oddi fewn i gymunedau’n fwy nag erioed yn sgil pandemig y coronafeirws.

Miliwn o Siaradwyr

“Os ydyn ni am wireddu targed Llywodraeth Cymru o filiwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n hanfodol ein bod ni’n cefnogi’r holl elfennau sy’n cyfrannu at adfywio’n hiaith a’n diwylliant, ac mae’r lleoliadau hyn yn allweddol i’r llwyddiant hwnnw,” meddai Geinor Styles, cyfarwyddwr artistig Theatr na nÓg.

“Roedd cydweithredu â thair theatr gymunedol yn teimlo fel partneriaeth naturiol i Theatr na nÓg.

“Bu’r tair yn hanfodol o ran cyfrannu at gefnogi diwylliant a’r Gymraeg yn eu hardaloedd.

“Nid yn unig yw’r weledigaeth a rannwn yn ymwneud â chyd-gynhyrchu theatr i ddatblygu cynulleidfaoedd, ond y mae hefyd yn ymwneud â dyfeisio rhaglen ymgysylltu â’r gymuned leol.

“Hefyd, mae ein cydweithrediad yn ein gosod mewn sefyllfa gref i ymbaratoi at adfywio’r ardaloedd hyn pan ddaw’r cyfnod clo i ben. Bryd hynny cawn ail-ddechrau rhoi bywyd newydd i’r trefi hyn yn dilyn Covid.”

Cyhoeddi eu cydweithrediad cyntaf

Er bod yr ansicrwydd yn parhau ynghylch pryd fydd y lleoliadau’n ailagor, mae’r Consortiwm wedi cyhoeddi eu cydweithrediad cyntaf, sef cyfieithiad ac addasiad o’r comedi clasurol Shirley Valentine gan Willy Russell.

Cafodd y ddrama ei chyfieithu’n wreiddiol gan Manon Eames, ac roedd yn boblogaidd pan agorodd yn Eisteddfod Aberystwyth yn 1994.

“Y dymuniad wrth galon ein hymrwymiad â’r consortiwm hwn yw bod y broses o greu theatr yn agored i gymunedau Cymraeg eu hiaith,” meddai Wynne Roberts, cyfarwyddwr Neuadd Les Ystradgynlais.

“Rydym yn gyffrous o weld sut mae Theatr na nÓg, cwmni cynhyrchu theatr uchel ei barch, yn datblygu syniadau am theatr newydd, gyda phobl leol yn cyfranogi.

“Mae clywed lleisiau tafodiaith Gymraeg Cwm Tawe ar lwyfan proffesiynol yn beth prin iawn; dyna rywbeth yr ydyn ni’n wirioneddol edrych ymlaen ato.”

Menter ‘wirioneddol ysbrydoledig’

Ychwanegodd Lis Mclean, cyfarwyddwr Theatr Soar: “Mae’r fenter hon yn wirioneddol ysbrydoledig,” meddai Lis McLean, Cyfarwyddwr Theatr Soar.

“Mae Theatr Soar wedi bod eisiau datblygu Theatr Gymraeg ei hiaith a chodi dyheadau a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymuned ers amser hir bellach.

“Cafodd hyn ei wneud yn bosibl drwy weithio mewn cydweithrediad ag eraill sy’n rhannu’r un gwerthoedd a gweledigaeth.

“Mae’r Consortiwm Cymraeg yn ymgorfforiad o’r hyn y mae Theatr Soar yn sefyll drosto.”