Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bwriad i fuddsoddi £6m yn WEPA UK, cwmni cynhyrchu papur ym Maesteg, i gefnogi ei gynlluniau i ehangu.

Bydd hyn yn arwain at greu 54 o swyddi a diogelu cannoedd yn rhagor ar ei safle ym Maesteg, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Dywed Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, y bydd cymorth gan Gronfa Dyfodol Economi Llywodraeth Cymru’n hanfodol i ddatblygu safle’r cwmni yn felin bapur gwbl integredig, gan ddyblu’i chynhyrchiant.

Bydd peiriant papur newydd yn galluogi’r cwmni, sy’n un o brif gyflenwyr papur domestig gwledydd Prydain, i gynhyrchu 65,000 yn fwy o dunelli’r flwyddyn o bapur tŷ bach a phapur cegin ar gyfer y farchnad.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud wrth i Lywodraeth Cymru lansio’u Cenhadaeth Ailadeiladu a Chadernid Economaidd yr wythnos hon, sy’n esbonio sut y bydd yn mynd ati i ailadeiladu’r economi ar ôl pandemig y coronafeirws.

“Cyflogwr arbennig o bwysig”

“Mae WEPA yn gyflogwr arbennig o bwysig yn y rhanbarth, a bydd y £6m y bydd Llywodraeth Cymru’n ei fuddsoddi’n hanfodol i gefnogi’r economi leol ar adeg aruthrol o anodd,” meddai Ken Skates.

“Rwy’n hynod falch y bydd ein buddsoddiad yn helpu’r busnes i greu swyddi o ansawdd da gan gynyddu swm ac amrywiaeth cynnyrch y busnes.

“Yr wythnos yma, lansiais ein Cenhadaeth Ailadeiladu a Chadernid Economaidd sy’n disgrifio sut y byddwn yn adfer ac yn ailadeiladu economi Cymru ar ôl y pandemig. Rydym yn glir bod helpu busnesau fel WEPA i arloesi a defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn allweddol i lwyddiant economi Cymru yn y dyfodol.

“Mae cyhoeddiad heddiw’n dangos unwaith eto ein bod yn benderfynol o ddod â ffyniant i bawb a helpu’n busnesau i lwyddo a ffynnu.”

“Diogelu swyddi ein gweithlu”

“Mae WEPA UK Ltd wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y prosiect mawr hwn ers y chwyn ac rydym yn ddiolchgar iddi am ei chefnogaeth ddi-dor,” meddai Tony Curtis, cyd-Reolwr Gyfarwyddwr WEPA UK Ltd.

“A hithau’n gyfnod mor ddigynsail, mae hwn yn ddatblygiad ffantastig ar gyfer ein busnes yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig i’r gymuned rydym yn gweithio ynddi, ein cwsmeriaid ledled y Deyrnas Unedig ac i’n gweithwyr all nawr gynllunio’n hyderus at y dyfodol.

“Mae’r prosiect yn diogelu swyddi ein gweithlu o fwy na 270 o weithwyr ym Mhen-y-bont ac yn creu rhagor na 50 o swyddi newydd ar y safle.”

“Prydain yn dal i fod yn farchnad dwf pwysig i ni”

“Mae ein parodrwydd i fuddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf yn rhan bwysig o strategaeth y Grŵp o baratoi ar gyfer y dyfodol,” medai Martin Krengel, Pennaeth WEPA Group.

“Er gwaethaf COVID-19 a Brexit, mae Prydain yn dal i fod yn farchnad dwf bwysig i ni yn Ewrop.”