Mae cwmni EE am ymestyn darpariaeth 4G mewn 76 o lefydd yng Nghymru erbyn diwedd y flwyddyn.

Y gobaith yw gwella cysylltedd i bobol mewn ardaloedd gwledig fel rhan o’r Rhwydwaith Gwledig a Rennir ledled gwledydd Prydain, gan leihau nifer y llefydd lle nad yw’n bosib cael mynediad i 4G erbyn 2024.

Mae’r Rhwydwaith yn rhaglen rhwng pedwar gweithredwr gwasanaethau symudol y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gobeithio ymestyn cysylltedd 4G i 95% o ardaloedd erbyn diwedd y degawd.

Mae’r ardaloedd lle bydd cysylltedd yn cael ei wella’n cynnwys parciau cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Eryri, llefydd arfordirol fel Eglwyswrw yn Sir Benfro a rhai ffyrdd.

Mae EE eisoes wedi cryfhau cysylltedd naw ardal yng Nghymru ers mis Mawrth y llynedd.

Ymhlith yr ardaloedd lle bydd gwaith yn cael ei gwblhau eleni mae:

  • Beddgelert (Gwynedd), Parc Cenedlaethol Eryri
  • Llanddew, Aberhonddu, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
  • Llithfaen (Gwynedd), Llŷn
  • Eglwyswrw (Sir Benfro), Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
  • Llanwrthwl, Llandrindod (Powys), A470

Ymhlith yr ardaloedd sydd eisoes wedi cael gwell cysylltedd mae:

  • Llanddeusant (Sir Gaerfyrddin) – Mynydd Du, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
  • Dyffryn Gwy (Sir Fynwy) – A40
  • Bwlch (Powys), Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – A40
  • Llanddarog, Porthyrhyd (Sir Gaerfyrddin) – A48
  • Penfro (Sir Benfro)

Bydd 333 o lefydd yn Lloegr, 132 yn yr Alban a 38 yng Ngogledd Iwerddon yn cael gwell cysylltedd.

Ymateb

“Rydym wedi ymrwymo i wella seilwaith digidol Cymru ac mae’r gwaith rhwng y cwmniau symudol a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y Rhwydwaith Gwledig a Rennir wedi gweld gwelliannau mawr mewn llawer o ardaloedd gwledig, gan ddod â buddion sylweddol i unigolion a busnesau,” meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru.

“Mae’n newyddion gwych bod mwy na 60 o safleodd am gael eu huwchraddio eleni, gan gynnwys yn ein Parciau Cenedlaethol, Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Sir Benfro.”

“Rwy’n falch iawn o weld y camau sylweddol y mae EE yn eu cymryd i hybu gwasanaethau 4G mewn cymunedau cefn gwlad fel rhan o’r cytundeb Rhwydwaith Gwledig a Rennir, a gafodd ei gytuno, ac sy’n cael ei ariannu’n rhannol, gan y llywodraeth,” meddai Matt Warman, Gweinidog Seilwaith Digidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Rydyn ni’n buddsoddi hanner biliwn o bunnoedd yn y rhaglen arbennig hon i ymestyn darpariaeth symudol i 95 y cant o’r DU, a bydd yn ein helpu i adeiladu’n ôl yn gryfach yn dilyn y pandemig.”

“Mae cysylltedd dibynadwy yn bwysig ble bynnag rydych chi’n byw, gweithio neu deithio, ac rydyn ni wedi ymrwymo i wella darpariaeth symudol yn yr ardaloedd mwyaf anghysbell,” meddai Philip Jansen, prif weithredwr BT Group.

“Mae’r buddsoddiad y mae BT wedi’i wneud mewn ardaloedd gwledig hyd yn hyn yn golygu bod gennym eisoes yr isadeiledd sydd ei angen i ymestyn ein darpariaeth 4G ymhellach, gan leihau nifer y safleoedd newydd y mae angen i ni eu hadeiladu.

“Mae sawl ardal ble mai EE yw’r unig ddarparwr sydd â gwasanaeth 4G ar hyn o bryd, gan gynnig cyfle i’r gwmniau eraill i rannu ein safleoedd presennol i lenwi bylchau yn eu rhwydweithiau a gwella perfformiad symudol i bawb.”

“Mae llawer o’n busnesau sy’n gweithio yn y sector twristiaeth a lletygarwch wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell,” meddai Jim Jones, prif swyddog gweithredol Twristiaeth Gogledd Cymru.

“Bydd gwell cysylltedd symudol yn dod ag ystod o fuddion i’n cymunedau gwledig.

“Mae’n hanfodol bod cysylltedd da ar gael i helpu busnesau i gadw mewn cysylltiad a’u cwsmeriaid ac ar gyfer pethau fel taliadau electronig a diweddaru eu platfformau cyfryngau cymdeithasol.

“Mae hyn yn newyddion da iawn iddyn nhw.

“A phan fyddwn yn gallu croesawu ymwelwyr yn ôl yn ddiogel at ein holl atyniadau, bydd gwell gwasanaeth symudol mewn lleoliadau poblogiaidd fel parciau cenedlaethol a mannau arfordirol yn hwb enfawr.

“Rydyn ni’n gwybod bod ymwelwyr domestig a rhyngwladol wir yn gwerthfawrogi cael cysylltedd da pan maen nhw ar wyliau, p’un ai ar gyfer rhannu lluniau gyda ffrindiau a theulu, neu er mwyn dal fyny gyda e-bost a chyfryngau cymdeithasol.”