Mae gan Wynedd y cyfraddau uchaf o achosion coronafeirws yng Nghymru dros y saith diwrnod diwethaf, sef 89.1 fesul 100,000 o bobol.

O gymharu gyda gweddill y wlad, mae’r gyfradd yng Ngwynedd yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 50.9 fesul 100,000.

Bu’r coronafeirws yn dew yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn ddiweddar a bu yn rhaid cadw rhai o blant bach y ddinas rhag mynychu’r ysgolion, oherwydd pryderon.

Bellach mae’r awdurdodau yn galw ar bobol y sir i ddilyn y rheoliadau i atal yr haint rhag lledaenu.

Dywedodd Dafydd Williams, Pennaeth Amgylchedd Cyngor Gwynedd a Chadeirydd Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Covid-19 Gwynedd:

“Mae bron i flwyddyn ers cyflwyno’r cyfnod clo cyntaf ac rydym yn gwybod ei fod wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb. Mae’r rhaglen frechu yn bwrw ymlaen yn gyflym a gallwn edrych ymlaen at ychydig o olau ar ddiwedd y twnnel.

“Fel sir, rydym wedi cyflawni cymaint gyda’n gilydd i amddiffyn cymunedau Gwynedd. Ond nid rwan ydi’r amser i lacio – rydym yn gwerthfawrogi bod y darlun cenedlaethol yn gwella, ond mae’r sefyllfa yng Ngwynedd yn parhau i fod yn destun pryder.

“Rydym yn gwybod bod pobl eisiau dychwelyd i fywyd fel ag yr oedd cyn Covid-19, ond y ffaith ydi mae’r haint yn parhau i fod yn fygythiad go-iawn. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos na allwn ymlacio a bod yn rhaid i ni barhau i ddilyn rheolau Covid-19.

“Am y tro, mae angen i ni gadw at y rheolau sylfaenol i gadw ein gilydd yn ddiogel ac i amddiffyn y gwasanaethau iechyd rydym yn dibynnu cymaint arnynt.

“Trwy chwarae eich rhan i reoli lledaeniad yr haint, does dim dwywaith y byddwch yn achub bywydau yma yng Ngwynedd.”

Cofiwch

Er mwyn cadw eich cymunedau’n ddiogel, cofiwch:

  • aros gartref
  • gweithio o gartref os
  • gallwch
  • gwisgo
  • gorchudd wyneb lle bo gofyn
  • agor ffenestri i adael awyr iach i mewn
  • golchi eich dwylo’n rheolaidd
  • aros 2 fetr i ffwrdd o unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw.