Mae protestwyr wedi targedu swyddfeydd y Swyddfa Gartref yng Nghaerdydd, mewn protest tros gadw ffoaduriaid yn Sir Benfro.

Mae gan y Swyddfa Gartref ddyletswydd i ofalu am bawb sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig.

Ond yn ôl y protestwyr, mae pobol sy’n aros yng ngwersyll hyfforddi milwrol Penalun, yn Sir Benfro, sy’n cael ei redeg gan gwmni Clearsprings ar ran y Llywodraeth, yn dioddef y canlynol:

  • Diffyg dŵr yfed a bwyd.
  • Systemau plymio a gwresogi anwadal sy’n arwain at amodau oer ac anniogel.
  • Diffyg mynediad i ffonau a’r rhyngrwyd, sy’n golygu methu cyfathrebu gyda chymorth teuluol neu gyfreithiol.
  • Amodau gorlawn, gan ei gwneud yn amhosibl cydymffurfio â rheolau ymbellhau cymdeithasol Covid-19.
  • Dim darpariaeth o wasanaethau iechyd nac iechyd meddwl.
  • Darpariaeth annigonol o doiledau a chawodydd.

Pan sefydlwyd y llety’r hydref diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Nid yw gwersyll milwrol yn lle addas i gartrefu pobol sydd wedi ffoi rhag gwrthdaro a rhyfel mewn rhannau eraill o’r byd.

“Mae Cymru’n noddfa. Pan fydd pobol yn cyrraedd Cymru, yna rydym am sicrhau eu bod yn derbyn gofal da ac yn cael eu croesawu.”

Dywedodd un o’r protestwyr, Lois Davis: “Mae gan Gymru ddiwylliant balch o groesawu ffoaduriaid.

“Dim ond y cyfle i fyw bywyd arferol a chyfrannu i’n cymdeithas y mae’r bobol hon eisiau.

“Mae’r Swyddfa Gartref yn gwadu hyn iddynt, ac mae’n well ganddynt eu cadw o dan amodau gwael, heb wybod a allant ddechrau astudio, gweithio a mynd ymlaen â’u bywydau.

“Mae hyn yn dwysáu’r trawma y maent wedi bod drwyddo yn ceisio dianc.”

Miloedd yn arwyddo deiseb i gau baracs ceiswyr lloches Sir Benfro

“Mae gan y Llywodraeth y pŵer i ddod â’r hunllef hon i ben yn awr. Gwagio’r baracs, cau’r gwersylloedd, achub bywydau.”

Ceiswyr lloches: galw am ymchwiliad annibynnol i safle Penalun

Mae’r gwersyll yn “hollol anaddas”, meddai Liz Saville Roberts

Llywodraeth Cymru yn galw am roi’r gorau i ddefnyddio gwersyll milwrol i gartrefu ceiswyr lloches

Lleu Bleddyn

“Cyn gynted â phosibl” meddai Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip