Mae nifer o bobl wedi cael eu hanafu yn Nhreorci ac mae’r heddlu yn parhau i ddelio gyda’r digwyddiad.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod swyddogion yn delio â “digwyddiad difrifol” a ddigwyddodd yn Stryd Baglan ym mhentref Ynyswen, Treorci, tua hanner dydd ddydd Gwener.

Dywedodd y llu fod y stryd wedi’i chau a bod pobl yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal hyd nes y clywir yn wahanol.

Mae criwiau ambiwlans hefyd yn bresennol gan fod nifer wedi eu hanafu.

“Does dim byd fel hyn wedi digwydd erioed”

Dywedodd un o drigolion y stryd ei bod yn gweld “cryn dipyn o geir heddlu” yn cyrraedd yr ardal ac yn gwybod bod yn rhaid iddo fod yn “rhywbeth difrifol”.

Dywedodd Mavis Wakeford, 79, wrth asiantaeth newyddion PA: “Mae’n dawel, does dim byd fel hyn wedi digwydd erioed. Rwyf wedi byw yma ar hyd fy oes ac nid oes dim byd fel hyn erioed wedi digwydd o’r blaen.”

Ychwanegodd: “Mae’n rhywbeth difrifol, yn amlwg.”

Ambiwlans Awyr wedi ei alw

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Cawsom ein galw heddiw, dydd Gwener 5 Mawrth am 12pm i ddigwyddiad mewn cyfeiriad yn ardal Ynyswen yn Nhreorci.

“Rydym wedi mynychu’r lleoliad gydag un cerbyd ymateb cyflym, tri ambiwlans brys, ein tîm ymateb ardal beryglus ac Ambiwlans Awyr Cymru.”

Mae arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi diolch i’r gwasanaethau brys: