Mae ffigyrau a ryddhawyd gan Fanc Datblygu Cymru heddiw (dydd Gwener, Mawrth 5), yn dangos bod mwy o bobol yn troi at gychwyn busnes yn y cyfnod clo.

Dangosodd y ffigyrau fod gwerth £1.8 miliwn o fenthyciadau o hyd at £50,000 wedi’u dyfarnu i fusnesau newydd yn 2020, o gymharu gydag £1.1 miliwn yn 2019.

Dyma gynnydd o 60%, ac roedd gwerth y benthyciadau ar gyfartaledd yn £23,000 ar draws 77 o fuddsoddiadau.

Mae ffigurau a ryddhawyd gan y Ganolfan Mentergarwyr a Thŷ’r Cwmnïau wedi datgelu cynnydd yng nghofrestriad busnesau newydd o bob maint er 2014, gyda record newydd o 772,002 yn 2020 – 13.25% yn uwch nag yn 2019.

“Anhygoel faint o gefnogaeth sydd ar gael”

Dechreuodd Carl Harris o Gasnewydd ei fusnes chauffeur preifat ei hun yn ystod y pandemig, ar ôl cael ei ddiswyddo ym mis Medi 2020.

“O’r adeg pan oeddwn i’n 12 oed ymlaen, roeddwn i wastad wedi gweithio i gael bywoliaeth a doedd covid ddim yn mynd i newid hynny,” meddai.

“Ar ôl cael fy niswyddo ym mis Medi 2020, penderfynais achub ar y cyfle i droi fy angerdd am yrru cerbydau a chynnig gwasanaeth i gwsmeriaid, yn fenter busnes.

“Yr ethos y tu ôl i Luxstar yw bod pob taith yn brofiad cofiadwy a diogel, ac mae’n cael ei gynnig mewn modd hamddenol a phroffesiynol.

“Mae’r help a’r gefnogaeth gan Busnes Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a’r Banc Datblygu wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf; o’r cynllun busnes cychwynnol hyd at sicrhau’r trwyddedau gweithredu cywir a sefydlu gwefan newydd.

“Gall dechrau busnes newydd fod yn heriol, ond mae’n anhygoel faint o gefnogaeth sydd ar gael.

“Mewn gwirionedd, mae’r gefnogaeth gan y Banc Datblygu wedi newid fy mywyd am byth.”

“Pobol yn dilyn eu breuddwydion”

Dywedodd Nicola Edwards, Rheolwr Cronfa Benthyciadau Bach Banc Datblygu Cymru bod benthyciadau’r Banc yn galluogi “pobol i ddilyn eu breuddwydion”.

“Bu’n 12 mis anhygoel o heriol ond nid yw covid wedi tynnu’r gwynt o hwyliau ein mentergarwyr yma yng Nghymru.

“Mewn gwirionedd, gyda chynnydd o dros 60% yn nifer y benthyciadau bach sydd wedi eu dyfarnu i fusnesau newydd, rydym wedi gweld ymchwydd yn y nifer o ymholiadau gan fusnesau newydd, gyda’r sectorau bwyd a diod, manwerthu ar-lein ac adeiladu yn perfformio’n arbennig o dda gyda phobl yn dilyn eu breuddwydion a cheisio manteisio ar y newid mewn ffordd o fyw.

“Yn y Banc Datblygu, rydym yn gallu trefnu benthyciadau cychwynnol o cyn lleied â £1,000, sy’n gallu bod yn help enfawr i rywun sydd am sefydlu busnes am y tro cyntaf.

“Gall benthyciad bach fynd yn bell mewn gwirionedd, ond o’i gyfuno gydag ymdrechion ein tîm, a gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a phartneriaid fel Busnes Cymru, gwneir gwir wahaniaeth oherwydd gyda’n gilydd gallwn helpu i wireddu breuddwydion busnes.”

“Cyfeirio cefnogaeth at fusnesau newydd arloesol yn holl bwysig”

Dywedodd yr Athro Max Munday, Uned Ymchwil Economi Cymru, Ysgol Busnes Caerdydd: “Er ein bod wedi tueddu i ganolbwyntio ar y bygythiadau economaidd sy’n deillio o Covid-19, mae’n bwysig iawn ystyried sut mae’r amodau masnachu gwael wedi arwain at achosion arloesi newydd ymhlith mentergarwyr Cymru.

“Mae cyfeirio cefnogaeth at fusnesau newydd arloesol yn holl bwysig a bydd yn un o’r mecanweithiau a fydd yn penderfynu pa mor gryf y daw Cymru allan o’r pandemig.”