Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cadarnhau fod sawl aelod o staff Llywodraeth Cymru yn hunan-ynysu ar ôl i “gwpl o achosion” gael eu canfod ymhlith pobol sy’n gweithio yn y Llywodraeth.

Daeth i’r amlwg ddoe fod y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn hunan-ynysu “fel rhagofal” ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi profi’n bositif am y coronafeirws.

Dechreuodd hunan-ynysu am 10 diwrnod ar ddydd Llun, Mawrth 1.

Ymunodd â Phwyllgor Materion Cymreig San Steffan dros y We o’r shed adnabyddus yng ngwaelod gardd ei gartref yng Nghaerdydd.

‘Nifer o bobol yn hunan-ynysu’

“Rydym wedi cadarnhau bod cwpl o achosion positif, felly mae nifer o bobol yn dilyn cyngor y gwasanaeth profi ac olrhain i ynysu a gweithio o gartref, gan gynnwys y Prif Weinidog,” meddai Vaughan Gething yn ystod cynhadledd i’r Wasg brynhawn dydd Gwener, Mawrth 5.

Eglurodd Vaughan Gething nad oedd wedi bod mewn cyswllt â’r unigolion ei hunan a’i fod yn rhydd i barhau i weithio ym Mharc Cathays yn y brif ddinas.

“Rydym ni wedi ceisio gwneud y peth iawn drwy gydol y pandemig, gyda’r ffordd rydym yn ymddwyn yma yn Llywodraeth Cymru, rydym yn sicrhau bod pobol yn cadw pellter, glanweithdra, golchi ein dwylo yn aml.

“Ond mae hyn yn dangos, er gwaethaf y mesurau, ei bod yn dal yn bosibl i’r coronafeirws sleifio drwodd, a dyna pam mae’r mesurau yma mor bwysig, a heb rheini byddai mwy o achosion.

“Mae hefyd yn atgyfnerthu pam bod dull gofalus allan o’r cyfyngiadau yn bwysig.”

Gwrthododd Vaughan Gething unrhyw honiadau fod Llywodraeth Cymru wedi methu amddiffyn eu gweithwyr.

‘Gwneud y peth iawn’

“Mae hyn yn ein hatgoffa, hyd yn oed pan fyddwn yn gwneud y peth iawn pan mae’r cyfraddau fel y maent, y byddwn yn gweld mwy o bobol yn gwneud y iawn ac yn cael coronafeirws,” ychwanegodd.

“Os bydd llai o bobol yn gwneud y peth iawn byddwn yn gweld enghreifftiau pellach o’r feirws yn lledaenu, dyna pam mae’r llwybr allan o’r cyfyngiadau mor bwysig i bob un ohonom.

“Bydd pawb yn dod allan o hyn gyda’n gilydd ac mae angen i bob un ohonom wneud y peth iawn o hyd a pheidio â symud ymlaen cyn i’r cyfyngiadau sy’n cael eu llacio, oherwydd gallem aberthu’r holl ryddid rydym i gyd am ei fwynhau.”

Cyfraddau’r coronafeirws yn gostwng i lai na 50 i bob 100,000 o’r boblogaeth

“Wrth i fwy o bobol gael eu brechu yng Nghymru, efallai ein bod yn gweld gostyngiad cyflymach na’r disgwyl”