Mae camerâu S4C wedi bod yn dilyn Prif Weinidog Cymru wrth iddo fynd o gwmpas ei bethau yn y pandemig.

Fe ddaeth i’r amlwg bod Mark Drakeford yn hunan-ynysu ers ddechrau’r wythnos hon – ond cyn hynny bu yn cael ei ffilmio wrth ei waith ac yn ei gartref.

Ar y rhaglen Prif Weinidog mewn pandemig ar S4C nos Sul fe fydd yn sôn am effaith ei rôl gyhoeddus ar ei deulu.

“Fi yw y person sy’n sefyll [i gael ei] ethol, nid nhw,” meddai ar y rhaglen.

“Ond, wrth gwrs, maen nhw yn clywed beth sy’n mynd ymlaen ar y radio. Maen nhw yn darllen pethau yn y newyddion, ac yn y blaen. Felly mae yn cael effaith ar bobol, wrth gwrs.

“Maen nhw yn teimlo drosoch chi.”

Hefyd ar y rhaglen mae Mark Drakeford yn datgelu ei fod yn anwybyddu’r cyfryngau cymdeithasol.

“Dw i ddim yn gwneud social media a phethau fel yna, o gwbl.

“Mae yn amhosibl, yn fy marn i, i wneud y gwaith os ydych chi bob tro, yn darllen beth mae pobol eraill yn ddweud.”

Steil Mark Drakeford

Wrth gael ei ffilmio yn clymu tei a gwisgo siwt, mae’r Prif Weinidog yn datgelu nad yw yn hoff o ddillad ffurfiol.

“Dw i’n gwisgo lan fel hyn dim ond pan mae yn angenrheidiol i fi wneud e’.

“Dw i ddim yn teimlo yn gyfforddus pan dw i yn gwisgo siwt, ond dyna fe.”

A phan mae’r cynhyrchwyr yn gofyn iddo beth yr hoffai wisgo, mae’r Prif Weinidog yn ateb:

“Oh! A! Os galla i wisgo beth yr ydw i eisiau gwisgo, jest shorts a T-shirt, siŵr o fod. Ha ha!”