Mae’r heddlu yn rhybuddio pobol i gymryd gofal wedi i gerddwr profiadol fynd ar goll am oriau mewn tywydd garw ar y Bannau, er mai ei bwriad oedd chwarter awr o am dro cyn troi am adref.
Treuliodd y ddynes, 50, sydd ddim am gael ei henwi, chwe awr ar goll ar fynydd yng nghanol niwl trwchus a glaw trwm.
Mae’r cerddwr profiadol wedi diolch i Heddlu Dyfed-Powys a Thîm Achub Mynydd Bannau’r Gorllewin am ddod o hyd iddi pan oedd hi wedi colli gobaith.
Dywedodd: “Aeth popeth a allai fynd o’i le ar y diwrnod hwnnw o’i le, a fi yw’r person mwyaf lwcus yn y byd i fod yma heddiw.
“Y rhan anodd iawn i’w dderbyn yw fy mod i mor ymwybodol o beryglon y mynydd.
“Rydw i wastad wedi bod yn ymwybodol o ba mor hawdd yw mynd ar goll, a bu’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn un o’r bobol hynny a aeth allan heb baratoi yn drylwyr.
“Nid yn unig y rhoddais fy hun mewn perygl, ond rhoddais yr heddlu a’r tîm achub mynydd mewn perygl hefyd.”
Mynd a’r ci am dro cyflym
Roedd y fam i ddau wedi mynd allan am dro cyflym gyda’i chi ar y Mynydd Du ger Brynaman, gan adael ei bag diogelwch yn y tŷ.
Dywedodd ei bod hi wedi parcio mewn man cyfarwydd, cyn dechrau cerdded ar lwybr oedd hefyd yn gyfarwydd iddi.
Cafodd ei dal allan yn gyflym gan wynt grymus, niwl trwchus a glaw trwm.
“Ceisiais droi’n ôl i’r car, ond fe wnaeth y gwynt fy nharo i lawr,” meddai.
“Yna dechreuodd y glaw, ac roedd yn taro fy wyneb fel bwledi. Roeddwn i’n ceisio dychwelyd i’r car, ond doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd iddo.
“Ar ôl ychydig, fe wnaethom ni gyrraedd ardal gors, ac roeddwn i’n gwybod o deithiau cerdded blaenorol nad oeddwn yn agos at y car.
“Dyna pryd sylweddolais nad oeddem yn mynd i allu dychwelyd.”
“Rhyddhad llethol y byddwn i’n gweld fy mhlant eto”
Erbyn chwech o’r gloch, nid oedd y ddynes yn gallu gweld ymhellach nag ychydig o fetrau, a gyda’i batri ffôn i lawr i 19% roedd yn gwybod bod yn rhaid iddi ffonio am help.
Defnyddiodd yr ap What Three Words, sy’n cynhyrchu tri gair i alluogi defnyddwyr i rannu eu hunion leoliad, a deialu 999.
Fodd bynnag, nid oedd ganddi unrhyw syniad, oherwydd signal symudol gwael, fod y lleoliad a gynhyrchwyd gan yr ap yn anghywir – gan anfon gwirfoddolwyr yr heddlu a’r criws achub mynydd i’r cyfeiriad anghywir.
“Roeddwn i’n codi bob ychydig funudau felly wnes i ddim cael hypothermia, a gweiddi ‘helo’ rhag ofn bod unrhyw un o gwmpas,” meddai.
“Doeddwn i ddim yn gallu gweld dim byd.
“Ffoniais 999 eto i ddweud wrthynt fy mod yn dal yn yr un lle.
“Ond pan wnes i wirio’r ap What Three Words eto a sylweddoli fy mod mewn lle hollol wahanol i ble roedden nhw’n meddwl oeddwn i.
“Yna torrodd yr alwad allan.”
Syrthio sawl tro
Ychydig funudau’n ddiweddarach cafodd alwad gan y Tîm Achub Mynydd – wrth i fatri ei ffôn farw
Cerddodd allan i’r awyr agored i fod yn fwy gweladwy.
“Yn y pellter byr y cerddon ni, fe syrthiais dros gynifer o weithiau, ac ni allwn fentro parhau,” meddai.
“Yn y diwedd wnes i orwedd i lawr ar y glaswellt. Roeddwn i’n meddwl ein bod ni’n mynd i farw yno.”
Yn y pen draw, clywodd ychydig o sŵn, ond ni allai weithio allan o ble’r oedd yn dod. Yna gwelodd olau bach yn y pellter.
“Fe wnes i gydio yn y ci a dechrau rhedeg tuag ato,” meddai.
“Erbyn hynny roeddwn i’n sgrechian ac yn gweiddi, ac yn sydyn roedd mwy o oleuadau. Roedd un o’u tortshys wedi dal fflach o lygaid y ci, neu fel arall ni fyddent wedi fy ngweld.
“Roeddwn i’n meddwl ‘rydyn ni’n mynd i fyw’, a chael y rhyddhad llethol hwn y byddwn i’n gweld fy mhlant eto.”
Ar ôl cerdded am 40 munud, roedd hi ar ei ffordd adref – chwe awr ar ôl gadael ei char.
“Gallech roi eich hun ac eraill mewn perygl”
Dywedodd Sarjant Dylan Davies, o Heddlu Dyfed-Powys: “Diolch i Dîm Achub Mynydd y Bannau Gorllewinol a lwyddodd i ddyfalbarhau, ac a lwyddodd i ddod o hyd iddi er gwaethaf yr amgylchiadau.
“Mae’r digwyddiad hwn yn dystiolaeth, er eich bod efallai’n meddwl eich bod yn ddiogel, y gallech roi eich hun ac eraill mewn perygl.”