Mae Aston Martin wedi dweud y bydd yn cynhyrchu ei holl geir trydan yn y Deyrnas Unedig o 2025.
Dywedodd y cwmni ceir moethus wrth y Financial Times y bydd eu model SUV trydan yn cael ei gynhyrchu yn ei ffatri yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg, tra bydd eu ceir batri yn cael eu cynhyrchu yn eu pencadlys yn Gaydon, Swydd Warwick.
Ar hyn o bryd mae’r cerbydau yn cael eu hadeiladu mewn ffatrïoedd yn yr Almaen sy’n berchen i’w partner Mercedes-Benz, sy’n berchen rhan o’r cwmni.
Dywed Aston Martin eu bod yn bwriadu lansio fersiwn hybrid o’r ceir yn ddiweddarach eleni, gyda cherbydau batri yn unig o 2025.
Mae’r Deyrnas Unedig yn bwriadu gwahardd gwerthu ceir petrol a disel newydd o 2030.
Mae Aston Martin wedi cael ei daro’n sylweddol gan y pandemig. Cafodd cyfanswm o 4,150 o geir eu gwerthu yn 2020 – traean yn llai na’r flwyddyn gynt.
Roedd colledion cyn treth yn 2020 wedi codi i £466 miliwn o’i gymharu â cholledion o £120 miliwn y flwyddyn gynt.