Fe fydd £16m yn rhagor yn cael ei fuddsoddi i ymestyn cynllun i gyflymu’r broses o gael mynediad at feddyginiaethau newydd yng Nghymru, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, heddiw (Mawrth 8).

Ers iddi gael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2017, mae’r Gronfa Triniaethau Newydd wedi cyflymu mynediad at dros 265 o feddyginiaethau i drin mwy na 100 o gyflyrau iechyd.

Mae wedi lleihau’r amser y mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i feddyginiaethau, sydd newydd eu hargymell, ddod ar gael i gleifion, gan ei leihau 85%, o  90 i 13 o ddiwrnodau, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae’r Gronfa wedi cyflymu’r broses o gael mynediad at feddyginiaethau sy’n cael eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru (AWMSG). Bydd yr arian sydd wedi’i gyhoeddi heddiw yn sicrhau bod y Gronfa’n parhau tan fis Ebrill 2022, meddai Vaughan Gething.

Mae triniaethau ar gyfer cyflyrau iechyd, gan gynnwys canser, HIV, sglerosis ymledol a ffeibrosis systig, i gyd wedi dod ar gael i gleifion yn llawer cynt, oherwydd y gronfa o £80m, meddai.

Mae meddyginiaethau, gan gynnwys Sarilumab a Tocilizumab, sydd wedi dod ar gael drwy’r Gronfa Triniaethau Newydd i drin arthritis ac arthritis gwynegol, bellach hefyd ar gael yn ddi-oed i’r Gwasanaeth Iechyd ac yn cael eu defnyddio i helpu i reoli COVID-19.

“Gwella bywydau miloedd o bobl”

Dywedodd Vaughan Gething: “Ers inni sefydlu’r Gronfa Triniaethau Newydd, mae wedi helpu i ymestyn a gwella bywydau miloedd o bobl ledled Cymru. Mae cleifion a’u teuluoedd yn elwa ar y ffaith bod mynediad gwell at feddyginiaethau sy’n gallu newid ac achub bywydau.

“Mae’n bleser gennyf gadarnhau y bydd y Gronfa’n cael ei hymestyn, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael yn gyflym ar y triniaethau diweddaraf sydd wedi eu hargymell, waeth ble yng Nghymru maen nhw’n byw.”