Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae Cymorth i Ferched Cymru wedi dweud fod y pandemig wedi amlygu anghydraddoldebau a thrais yn erbyn menywod.

Maen nhw’n annog pawb i ddod at ei gilydd i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol ac i gydweithio i atal trais a cham-drin menywod a merched, sy’n “parhau ar lefelau epidemig” yn ystod y pandemig.

“Rydyn ni yn Cymorth i Ferched Cymru hefyd yn gwybod bod mwy o alw am gymorth wedi bod ymysg goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod y cyfnod hwn,” meddai Gwendolyn Sterk, Pennaeth Materion Cyhoeddus a Chyfathrebu Cymorth i Ferched Cymru.

“Mae’r ymateb cymunedol a’r undod cymdeithasol y mae Covid 19 wedi’i ysbrydoli yn hanfodol i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod.

“Fel sy’n wir am y mesurau cadw pellter cymdeithasol, nid oes modd bod yn effeithiol oni bai bod pob un ohonom yn ymrwymo. Mae’r pandemig wedi dangos yn glir nad oes modd osgoi’r ffaith bod trais yn erbyn menywod a merched yn fater i bawb.

“Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod rydym yn annog pawb i ddod at ei gilydd i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol ac i gydweithio i atal trais a cham-drin menywod a merched, sy’n parhau ar lefelau epidemig.”

Mae’r elusen wedi croesawu cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i greu pecyn #SefyllGydaGoroeswyr i gefnogi menywod sy’n dioddef o gam-drin domestig a thrais rhywiol.

Herio rhagfarn ar sail rhyw

I nodi’r diwrnod mae Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, wedi galw ar bobol Cymru i herio rhagfarn ar sail rhyw, anghydraddoldeb a thrais yn erbyn menywod.

“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle perffaith i ddathlu llwyddiannau menywod – a chymryd camau yn erbyn anghydraddoldeb rhwng y rhywiau,” meddai.

“Fel unigolion, rydym yn gyfrifol am ein meddyliau a’n gweithredoedd ein hunain. Heddiw, rwy’n galw ar Gymru i ddewis parchu hawliau menywod, dewis newid ein hymddygiad, a dewis adnabod a herio ymddygiad gan eraill sy’n cam-drin neu’n gwahaniaethu.

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i sicrhau cydraddoldeb.

“Gyda’n gilydd, gallwn herio camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol, a sicrhau dyfodol lle mae menywod yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial, beth bynnag maen nhw’n dewis ei wneud.”

Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn lansio cam nesaf ymgyrch ‘Ddylai neb fod yn ofnus gartre’ sydd yn atgoffa dioddefwyr, goroeswyr ac unigolion pryderus bod gwasanaethau ar gael i helpu o hyd.

Wrth siarad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig fod “cymaint mwy i’w wneud” o hyd.

“Er bod camau wedi’u cymryd yng Nghymru ac ar draws llawer o’r byd yn ystod y blynyddoedd diwethaf tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau, rydym yn gwybod bod cymaint mwy i’w wneud,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae gwahaniaethu annerbyniol dal i fod ac yn ein dal ni nôl o’n gwir botensial fel gwlad.

“Gallwn a byddwn yn gwneud yn well.”