Yn dilyn galwad COBRA mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi ei glywed yn beirniadu Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Boris Johnson.

“Annwyl, mae e wir, wir yn ofnadwy,” meddai Mark Drakeford ar ôl siarad â Boris Johnson am y tro cyntaf mewn tri mis.

Mewn ymateb i’r sylwadau mae Stryd Downing yn mynnu eu bod nhw’n parhau i weithio’n agos gyda’r gwledydd datganoledig i fynd i’r afael a’r feirws.

‘Prif Weinidog mewn Pandemig’

Ar y rhaglen bry-ar-y-wal, Prif Weinidog mewn Pandemig, a gafodd ei darlledu ar S4C nos Sul (Mawrth 7), y daeth sylwadau Mr Drakeford i’r amlwg.

Roedd i’w weld yn ymuno â galwad dros y we i drafod cau’r ffin rhwng y Deyrnas Unedig a Ffrainc.

Oherwydd rheolau cyfrinachedd doedd dim hawl darlledu’r cyfarfod COBRA ond clywir Boris Johnson yn diolch i bobol am ymuno â’r alwad.

“Diolch i bawb am ymuno â’r alwad hon. Credaf fod yn rhaid i ni edrych ar frys ar oblygiadau’r gwaharddiad ar deithio y mae rhai o’n cyfeillion Ewropeaidd wedi’i osod,” meddai.

“Cawn glywed gan Mark Drakeford a… a phobol eraill.”

Fis Rhagfyr, fe wnaeth Ffrainc wahardd lorïau’n cludo nwyddau o’r Deyrnas Unedig oherwydd cyfraddau uchel o’r coronafeirws.

“Annwyl, mae e wir, wir yn ofnadwy,” meddai Mark Drakeford ar ôl yr alwad.

“Dychmygwch fod rhyw amrywiolyn newydd o’r feirws wedi’i ddarganfod yn Ffrainc ac eu bod nhw’n ceisio ein perswadio ni nad oedd angen cymryd unrhyw gamau i atal gyrwyr lorïau Ffrengig rhag gyrru ar draws y cyfandir!”

Yna, mae cymhorthydd yn gofyn i Mark Drakeford os oes angen unrhyw gofnodion o’r cyfarfod.

“Na, dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw beth o gwbl. Heblaw am daflu ein dwylo mewn anobaith.”

‘Trwy lygaid Llundain’

Yn gynharach yn y rhaglen mae Mark Drakeford yn cydnabod nad oes ganddo lawer yn gyffredin gyda Boris Johnson.

“Mae’r llywodraeth yn Llundain yn gweld y byd, ac maen nhw’n gweld y Deyrnas Unedig, trwy lygaid Llundain,” meddai.

“Weithiau dydy hynny ddim yn gweithio i ni. Os oes rhaid i ni wneud yr hyn maen nhw eisiau i ni ei wneud yn Llundain does dim pwynt i’r Senedd yma yng Nghymru.”

Dywedodd wrth aelodau’r Senedd wythnos diwethaf fod “diffyg cyswllt rheolaidd” Boris Johnson â’r gwledydd datganoledig yn tanseilio ymdrechion gan undebwyr i atal y Deyrnas Unedig rhag chwalu.

Mae hefyd wedi dweud fod yr “undeb, fel y mae hi, wedi dod i ben”, a bod rhaid newid strwythur y Deyrnas Unedig.

Ymateb Stryd Downing

“Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r gweinyddiaethau datganoledig drwy gydol y pandemig,” meddai llefarydd ar ran Prif Weinidog Prydain.

“Ers dechrau’r pandemig mae llawer o gyfarfodydd a galwadau wedi bod gyda’r gweinyddiaethau datganoledig a phartneriaid lleol gan gynnwys galwadau wythnosol rhwng y prif weinidogion, y dirprwy brif weinidogion a CDL (Canghellor Dugiaeth Lancaster – sef Michael Gove).

“Cafwyd nifer o gyfarfodydd Cobra a chyfarfodydd eraill lle rydym wedi gweithio’n agos fel un Deyrnas Unedig i geisio mynd i’r afael â’r feirws.

“Hoffwn dynnu sylw at yr hyn rydym wedi’i ddweud o’r blaen am y mesurau ar y ffin sydd ar waith i geisio sicrhau ein bod yn rhoi’r gorau i fewnforio achosion o’r coronafeirws, a’r mesurau eraill rydym wedi’u cyflwyno drwy gydol y pandemig i geisio cyflawni ein nod.

“Ein hymrwymiad o hyd yw gweithio’n agos gyda’r gweinyddiaethau datganoledig wrth i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i geisio mynd i’r afael â’r feirws.”

Dylai Mark Drakeford “barchu swydd” Prif Weinidog y Deyrnas Unedig

Er amharodrwydd Rhif 10 Downing i ymateb yn uniongyrchol i sylwadau Mark Drakeford, nid oedd hynny’n wir am arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.

Dylai Mark Drakeford “barchu swydd” Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, meddai Andrew RT Davies yn chwyrn.

“Efallai y bydd y math hwn o rethreg yn gweithio’n dda gyda’r cenedlaetholwyr cyn trafodaethau clymblaid ond dydw i ddim yn siŵr bod hyn yn edrych yn dda i Brif Weinidog Llafur,” meddai Andrew RT Davies ar Twitter.

“Pleidleisiodd dros hanner miliwn o Gymry dros y Prif Weinidog [Boris Johnson], felly er nad yw’n hoffi’r rhoséd, dylai barchu’r swydd.”

Prif Weinidog Cymru ddim yn hoffi gwisgo siwt – mwy o foi shorts a T-shirt

Cyfle i glywed y gwleidydd yn chwythu ei glarinét ar raglen bry-ar-y-wal ar S4C

‘Mae’r undeb, fel y mae hi, wedi dod i ben’

Iolo Jones

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn rhannu ei farn am ddyfodol y Deyrnas Unedig ag ASau

Mark Drakeford yn cymharu gweithio â Boris Johnson a Theresa May wrth siarad â Beti George

“Dw i’n meddwl bod cyfrifoldeb gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig i wrando ac i gydweithio,” meddai yn ystod y sgwrs i’w darlledu dros y Nadolig