Mae’r rheilffordd ger Llangennech wedi ail agor chwe mis wedi i drên diesel fynd ar dân ar gyrion y pentref yn Sir Gaerfyrddin.
Bu’n rhaid cau ochr ddeheuol Rheilffordd Calon Cymru yn dilyn y “drychineb amgylcheddol” fis Awst y llynedd a orfododd 300 o bobol o’u cartrefi.
Roedd pryder mawr am fywyd gwyllt a dyfrffyrdd pan ddigwyddodd y ddamwain.
Cafodd pridd halogedig hyd at 150 metr o’r rheilffordd, ar ddyfnder o ddau fetr a lled o 20 metr, ei glirio yn ystod y gwaith.
Mae’r pridd wedi’i ddisodli gan bridd newydd, glân o chwareli yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro sy’n cyfateb i briodweddau cemegol a chorfforol hynny sydd eisoes ar y safle.
Cyhoeddodd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd adroddiad rhagarweiniol ym mis Medi 2020 yn nodi bod rhai o olwynion y trên wedi’u difrodi oherwydd nam ar y brêc.
‘Gweithio yn ddi-stop’
Dywedodd Network Rail a Cyfoeth Naturiol Cymru bod 37,500 o oriau gwaith wedi’u treulio i adfer y rheilffordd ac amddiffyn yr amgylchedd wedi i 350,000 litr o ddisel ollwng o’r cerbydau.
“Mae ein timau wedi gweithio’n ddi-stop am y chwe mis diwethaf ac mae eu hymroddiad wedi talu ar ei ganfed,” meddai cyfarwyddwr llwybr Network Rail, Bill Kelly.
“Gallwn ddweud yn hyderus y bydd y mesurau rydym wedi’u cymryd yn diogelu’r amgylchedd lleol am genedlaethau i ddod.”
Dywedodd Lee Waters, Aelod o’r Senedd dros Lanelli: “Pan ymwelon ni â’r safle am y tro cyntaf roedd fel ffilm drychineb, ond bob tro rwyf wedi ailymweld a’r safle ers hynny mae’n glir gweld faint o ymdrech sydd wedi mynd i achub yr amgylchedd ac adfer y rheilffordd.”