Mae ffigurau sy’n edrych ar agwedd pobl tuag at y brechlyn Covid yn y Deyrnas Unedig wedi canfod bod 94% o’r rhai gafodd eu holi yn teimlo’n gadarnhaol am y brechlyn.

Oedolion iau, pobl ddu, rhai ar incwm isel neu’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig oedd yn fwyaf tebygol o fod yn betrusgar, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Yn ôl y ffigurau roedd 94% yn teimlo’n bositif am y brechlyn, o’i gymharu â 78% ym mis Rhagfyr pan gafodd y ffigurau eu casglu y tro cyntaf.

Y rhai sy’n cael eu hystyried yn betrusgar yw oedolion sydd wedi gwrthod y brechlyn, neu’n dweud y bydden nhw’n annhebygol o gael eu brechu, a’r rhai oedd wedi ymateb drwy ddweud nad oedden nhw’n gwybod, neu fod yn well ganddyn nhw beidio dweud.

Roedd mwy na phedwar o bob 10 (44%) o oedolion du yn dweud eu bod yn betrusgar. Dyma oedd y lefel uchaf ym mhob un o’r grwpiau ethnig.

Rhieni a phlant ifanc ‘yn fwy petrusgar’

Y grŵp oedran oedd yn fwyaf petrusgar oedd pobl ifanc rhwng 16 a 29 oed, gydag 17% yn dweud eu bod yn poeni am y brechlyn, o’i gymharu â 1% o bobl dros 80 oed.

Roedd hynny’n bennaf am fod y grŵp oedran rhwng 16 a 29 oed yn teimlo nad oedd y coronafeirws yn peri risg iddyn nhw.

Yn ôl yr arolwg roedd 16% o rieni oedd a phlant rhwng 0-4 oed yn fwy petrusgar, o’i gymharu â 8% o rieni oedd heb blentyn dibynnol.

Roedd 16% o oedolion yn Lloegr sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig hefyd yn betrusgar o’i gymharu â 7% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Agwedd negyddol

Darganfu’r arolwg hefyd bod 4% wedi mynegi agwedd negyddol tuag at y brechlyn, sef yr oedolion sydd wedi gwrthod y brechlyn a’r rheiny sy’n dweud eu bod yn annhebygol iawn o gael eu brechu pan fyddan nhw’n cael ei gynnig.

Y rhesymau mwyaf cyffredin oedd pryder am sgil-effeithiau’r brechlyn, yr effaith hir dymor ar iechyd, aros i weld pa mor effeithiol yw’r brechlyn, neu rhai’n credu nad oedd yn ddiogel. O’r rhai oedd wedi mynegi agwedd negyddol, roedd 11% yn fenywod oedd yn feichiog neu’n ceisio am fabi, ac yn poeni am yr effeithiau ar y babi.

Dywedodd Tim Vizard, o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS): “Dros y tri mis diwethaf ry’n ni wedi gweld pobl yn teimlo’n fwy calonogol am y brechlynnau Covid-19, gyda mwy na 9 ymhob 10 oedolyn yn dweud y byddan nhw’n cael y brechlyn os yw’n cael ei gynnig, neu eisoes wedi’i gael.”