Fe fydd heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn cael £30 miliwn i fynd i’r afael a throseddau treisgar mewn ymdrech i leihau nifer y llofruddiaethau, troseddau’n ymwneud a chyllyll a throseddau difrifol eraill.
Fe fydd arian y Llywodraeth yn cael ei roi i heddluoedd mewn rhannau o Gymru a Lloegr sydd “wedi’i heffeithio fwyaf gan drais difrifol,” meddai’r Swyddfa Gartref.
Mae disgwyl i benaethiaid yr heddluoedd gyflwyno cynlluniau ynglŷn â sut maen nhw’n bwriadu gwario’r arian cyn iddo gael ei gymeradwyo gan y Swyddfa Gartref.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel bod yr arian yn rhan o becyn gwerth mwy na £130 miliwn a fydd ar gael yn ystod y flwyddyn i fynd i’r afael a throseddau treisgar a gwneud gwledydd Prydain yn fwy diogel.
Fe fydd yr arian yn mynd tuag at ehangu prosiectau cyfredol, fel herio ymddygiad pobl sy’n euog o gam-drin domestig, yn ogystal â £23m ar gyfer rhagor o brosiectau i helpu pobl ifanc rhag troseddu.
Daw’r cyhoeddiad cyn cyflwyno Bil cyfiawnder troseddol a fydd yn ceisio rhoi mwy o bwerau stopio a chwilio i’r heddlu er mwyn mynd i’r afael a’r rhai sy’n cario cyllyll ac arfau eraill.
Mae Heddlu De Cymru ymhlith yr heddluoedd sy’n derbyn cyfran o’r £30m.