Mae’r Gweinidog Addysg wedi cadarnhau y bydd plant cynradd i gyd yn dychwelyd i’r ysgol wythnos nesaf.

Ar ôl i’r plant ieuengaf ddechrau dychwelyd i’r ysgol dros yr wythnosau diwethaf, eglurodd Kirsty Williams mai’r bwriad yw y bydd pob disgybl yng Nghymru yn dychwelyd i’r ysgol wedi gwyliau’r Pasg.

“Mae wedi bod yn wych gweld ein dysgwyr ieuengaf yn ôl yn yr ystafell ddosbarth gyda’u ffrindiau dros y pythefnos diwethaf,” meddai.

“Yr wythnos nesaf, byddwn yn gweld gweddill ein disgyblion cynradd yn dychwelyd i’r ysgol, yn ogystal â grwpiau o ddysgwyr mewn ysgolion uwchradd, a mwy o fyfyrwyr coleg.

“Bydd gan ysgolion hefyd yr hyblygrwydd i ganiatáu i ddisgyblion blynyddoedd 10 a 12 ddod fewn i’w cefnogi i symud ymlaen i gam nesaf eu dysgu.

“Rydym hefyd yn rhoi hyblygrwydd ychwanegol i ysgolion fel bod dysgwyr ym Mlynyddoedd 7, 8 a 9 yn cael cyfle i dreulio amser gwerthfawr yn yr ysgol gyda’u hathrawon.

“Rwy’n dal i ddisgwyl, os bydd yr amodau’n caniatáu, y byddwn yn gweld pob dysgwr yn dychwelyd yn llawn ar ôl gwyliau’r Pasg.”

Fe ddychwelodd holl ddisgyblion cynradd ac uwchradd yn Lloegr i’r ysgol heddiw. 

Pan ofynnwyd iddi am bolisi Lloegr, ac a oedd yn difaru peidio dilyn y polisi yma yng Nghymru, dywedodd Kirsty Williams mai Llywodraeth Cymru oedd yn dilyn cyngor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (Sage) wrth beidio â chaniatáu i bob disgybl ddychwelyd i ysgolion ar unwaith, fel yn Lloegr.

Dywedodd: “Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i’w gofio yw nôl ym mis Chwefror, roedd Sage yn glir iawn eu cyngor i lywodraethau bod dychwelyd i’r ysgol fesul cam yn hollbwysig o ran gallu monitro’r effaith ar y pandemig wrth i ni symud ymlaen.”

£72 miliwn ychwanegol

Mae’r Gweinidog Addysg hefyd wedi cyhoeddi £72 miliwn ychwanegol i gefnogi dysgwyr fel rhan o’r ymateb i adfer a sicrhau cynnydd yn sgil y pandemig.

Mae disgwyl i’r cyhoeddiad gynyddu’r gwariant fesul disgybl i £239 – yr uchaf yn y Deyrnas Unedig.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i barhau â’r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau yn y flwyddyn academaidd nesaf, ac i sicrhau adnoddau dysgu ychwanegol a chymorth i ddysgwyr cyfnod sylfaen mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant sy’n darparu addysg gynnar.

Bydd y cyllid hefyd yn targedu dysgwyr ym mlynyddoedd 11, 12 a 13, gan ddarparu cymorth ychwanegol wrth iddynt bontio i’r cam nesaf.

Ers mis Gorffennaf y llynedd, mae 1,800 o staff ysgol amser llawn ychwanegol wedi’u recriwtio mewn ysgolion ledled Cymru, dwbl y targed gwreiddiol o 900.

Bydd y cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi 1,400 o athrawon dan hyfforddiant gan eu galluogi nhw i gwblhau eu profiad ymarferol yn yr hydref.

“Rwy’n gwybod bod angen cymorth ychwanegol, yn enwedig i ddysgwyr sydd mewn cyfnodau allweddol yn eu gyrfaoedd academaidd ac yn eu bywydau,” meddai Kirsty Williams.

“Wrth i ddysgwyr barhau i ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb, rydym yn darparu’r cyllid ychwanegol hwn i sicrhau bod cymorth ar gael fel y gall ein pobl ifanc ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth.”

Plaid Cymru’n ymateb

Er fod Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllian AoS, wedi croesawu’r cyllid ychwanegol hwn, mae hefyd wedi galw am gynllun adfer.

“Mae’n rhaid i hyn gynnwys buddsoddiad sylweddol yn y gweithlu addysgu a chynnydd mewn addysgu un i un a grwpiau bach, ochr yn ochr â mesurau eraill, fel cynllun gwirfoddoli a llogi ymarferwyr artistig i gefnogi lles disgyblion ar ôl covid,” meddai Siân Gwenllian.

“Ni all y gwariant a gyhoeddwyd heddiw fod yn wariant untro; rhaid iddo fod yn rhan o ailfuddsoddiad hirdymor i ysgolion er mwyn cynnal adferiad fel rhan o welliant parhaus.

“Ni allwn adael unrhyw blant ar ôl.”

Miliynau o brofion wedi eu danfon i ysgolion

Diolchodd y Gweinidog Addysg i staff ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol am gefnogi’r rhaglen brofi mewn ysgolion.

Erbyn diwedd yr wythnos mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio bydd mwy na pum miliwn o brofion llif unffordd wedi’u dosbarthu i ysgolion, colegau a lleoliadau gofal plant ledled Cymru.

Ond er y bydd disgyblion yn cael eu hannog i fynd â nhw gartref, eglurodd y Gweinidog Addysg nad oedd y profion yn orfodol.

“Nid ydynt yn orfodol,” meddai.

“Bydd myfyrwyr yn gallu cael mynediad at addysg heb gymryd y prawf.

“Bydd [y profion] yn rhoi mwy o sicrwydd i bawb.”

Ffigurau diweddaraf

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi nad oedd un marwolaeth oherwydd Covid-19 wedi cael ei chofnodi yng Nghymru heddiw yn y 24 awr ddiwethaf.

Dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd ers dechrau Hydref 2020, ond mae’n bosib i’r ffigyrau gael eu heffeithio gan oedi yn y system gofnodi dros y penwythnos.

Mae’n golygu bod 5,403 o bobol bellach wedi marw ar ôl cael prawf positif am y coronafeirws yng Nghymru.

Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 163 o achosion newydd wedi eu cadarnhau gan fynd â’r cyfanswm i 205,202 ers dechrau’r pandemig.

Ar hyn o bryd mae gan Gymru gyfradd wythnosol o 45 achos i bob 100,000, tra bod cyfanswm o 998,296 dos cyntaf a 183,739 ail ddos o frechlyn Covid-19 wedi’u rhoi.

Disgwyl i’r cyfyngiadau gael eu llacio ddiwedd yr wythnos

Gallai cyfnod o gyfyngiadau lleol fod yn “gam cyntaf ar y daith”, yn ôl Mark Drakeford