Mae miliynau o blant wedi dychwelyd i’r dosbarth yn Lloegr am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr wrth i’r cyfyngiadau coronafeirws ddechrau cael eu llacio yno.

O dan gynllun y Llywodraeth i ddechrau llacio’r cyfyngiadau, fe fydd ymweliadau a chartrefi gofal yn ail-ddechrau o heddiw (dydd Llun, Mawrth 8) hefyd, ond o dan amodau llym.

Mae’r rheolau’n ymwneud a chyfarfod ag aelwyd arall hefyd wedi’u llacio er mwyn caniatáu i bobl adael eu cartrefi i gwrdd ag un person y tu allan am baned neu bicnic.

Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson er bod y cyfyngiadau wedi’u llacio rhywfaint fe fydd yn dod a “llawenydd a rhyddhad” i deuluoedd wedi misoedd o “gyfyngiadau llym.”

Mae gwyddonydd sy’n cynghori’r Llywodraeth wedi cydnabod ei fod yn “anochel” y bydd cynnydd yn nifer yr achosion o Covid wrth i ysgolion ail-agor.

Mae gweinidogion yn credu y bydd y rhaglen frechu Covid-19 yn helpu i gadw nifer yr achosion a’r nifer sy’n gorfod mynd i’r ysbyty, yn ogystal â marwolaethau, yn isel wrth i fwy a mwy o bobl gael eu hamddiffyn rhag y firws.