Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd tîm cenedlaethol merched Cymru’n herio Canada a Denmarc mewn gemau cyfeillgar ym mis Ebrill.

Daw hyn fel rhan o baratoadau ar gyfer Rownd Rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA Merched 2023, a dyma fydd y gemau cyntaf i Ferched Cymru chwarae ers i Jayne Ludlow adael ei swydd fel rheolwr.

Byddan nhw’n chwarae yn erbyn Canada ar Ebrill 9, gyda’r lleoliad yn cael ei gyhoeddi’n fuan, tra bydd y gêm yn erbyn Denmarc yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Ebrill 13.

Dyma’r ail waith fydd Cymru yn wynebu’r ddwy wlad, ar ôl chwarae Canada yng Nghwpan Algarve yn 2002 a Denmarc yn nhwrnament cyfeillgar yn y Swistir yn 2011.

Mae disgwyl i’r tîm ddarganfod ei gwrthwynebwyr ar gyfer y rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd ar Ebrill 30.

Bydd y gemau’n cael ei chware heb dorf oherwydd y pandemig y coronafeirws.

Jayne Ludlow yn gadael ei swydd fel Rheolwr Tîm Cenedlaethol Merched Cymru

Jayne Ludlow wedi bod yn “ysbrydoliaeth”, meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford

Cyhoeddi carfan merched Cymru

Cyfarwyddwr technegol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, David Adams, fydd yn arwain y gwersyll hyfforddi