Mae Gareth Bale wedi gwella o’r “creithiau seicolegol” oedd yn ei effeithio ar ddechrau’r tymor, yn ôl Jose Mourinho, rheolwr Tottenham Hotspur.
Daw hyn ar ôl i’r clwb o Ogledd Llundain drechu Crystal Palace o 4-1 ddydd Sul (Mawrth 7), gyda Gareth Bale yn sgorio dwy gôl.
Mae Gareth Bale bellach wedi sgorio chwe gôl yn ei chwe gêm ddiwethaf, yn ogystal â chreu tair gôl arall.
“Rwy’n hapus iawn, mae o’n chwaraewr gwych ac rwyf wrth fy modd i gael gweithio gyda chwaraewr fel ef,” meddai Jose Mourinho.
Cyn ei rediad diweddar, dim ond dwy gêm yr oedd Gareth Bale wedi dechrau yn yr Uwch Gynghrair, ac roedd tair o’i bedair gôl wedi dod mewn gemau cwpan.
“Doedd neb yn ei herio. Roedden ni’n ei gefnogi,” meddai Jose Mourinho wrth BBC Sport.
“Fe wnes i ddod o hyd i greithiau seicolegol. Pan rydach chi’n delio gydag ychydig o dymhorau gyda llawer o anafiadau, rwy’n credu nad yw’n ymwneud â’r creithiau cyhyrol ond y creithiau seicolegol – sy’n dod ag ofnau ac ansefydlogrwydd.
“Mae yna foment pan fyddwch chi’n gweithio’n dda iawn ac mae pawb o’ch cwmpas yn rhoi popeth y gallwn ni ei roi, mae yna foment lle mae’n rhaid torri’r rhwystr seicolegol hwnnw.
“Ac mae o wedi llwyddo i’w torri, nid ni, fo sydd wedi gwneud. Dim ond ei gefnogi wnaethom ni.”
“Teimlo’n dda”
Dywedodd Gareth Bale: “Rwy’n teimlo’n dda. Mae nifer o gemau’n dod yn gyflym nawr felly mae’n rhaid adfer a pharatoi ar gyfer yr un nesaf.
“Fyddwn i ddim wedi dod pe na bawn i’n meddwl y gallwn i gyfrannu. Mae wedi cymryd amser ond dyna realiti pêl-droed.
“Rwy’n teimlo’n dda nawr, gobeithio y gallaf gadw’r rhediad hwn i fynd.”