Dim ond un peth yr ydych angen ei wybod, mae Bale a Rambo ar dân. Ond rhag ofn i goesau gwydr ein harwyr cenedlaethol gracio eto rhwng nawr a Gwlad Belg, gwell fyddai cadw golwg ar bawb arall hefyd!
*
Uwch Gynghrair Lloegr
Roedd hi’n ddiwrnod i’w anghofio i Ethan Ampadu yn erbyn Southampton ddydd Sadwrn, nid yn unig gan i Sheffield United golli eto o ddwy gôl i ddim ond gan mai ef a ildiodd y gic o’r smotyn ar gyfer y gôl agoriadol.
Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Neil Taylor i Aston Villa yn erbyn Wolves a Danny Ward i Gaerlŷr yn Brighton nos Sadwrn.
Roedd Hal Robson-Kanu yn eilydd hwyr wrth i West Brom gael gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Newcastle yn y gêm gynnar ddydd Sul.
Roedd ymddangosiad prin i Neco Williams wrth i’r cefnwr dde ddechrau yng ngholled Lerpwl o gôl i ddim yn erbyn Fulham.
Cafodd Man U fuddugoliaeth gofiadwy yn y gêm ddarbi yn erbyn City brynhawn Sul, yn dod â rhediad anhygoel eu cymdogion o un fuddugoliaeth ar hugain i ben wrth eu curo o ddwy gôl i ddim. Chwaraeodd Dan James y gêm gyfan i United.
Sgoriodd Gareth Bale ddwy gôl am yr ail benwythnos yn olynol wrth i Tottenham roi crasfa i Crystal Palace nos Sul. Mae’r Cymro ar dân ar hyn o bryd, wedi sgorio chwe gôl mewn chwe gêm a phedair yn y tair gêm ddiwethaf.
Rhoddodd Spurs ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf gyda gôl syml i rwyd agored, ac wedi i Palace unioni pethau cyn yr egwyl, fe adferodd Bale fantais ei dîm gyda pheniad da ar ddechrau’r ail hanner. Aeth Spurs ymlaen i ennill o bedair gôl i un ond aros ar y fainc a wnaeth Ben Davies trwy gydol y gêm.
*
Y Bencampwriaeth
Mae rhediad anhygoel Caerdydd gyda Mick McCarthy wrth y llyw yn parhau yn dilyn buddugoliaeth dros Derby ganol wythnos a gêm gyfartal yn erbyn Huddersfield nos Wener. Nid yw’r Adar Gleision wedi colli ers i’r rheolwr newydd gymryd yr awenau.
Un chwaraewr sydd wedi cael adfywiad o dan ofal McCarthy yw Will Vaulks. Y chwaraewr canol cae yw un o’r enwau cyntaf ar y daflen tîm ac ef oedd seren y gêm yn erbyn Derby, yn creu’r gôl gyntaf i Kieffer Moore cyn sgorio’r ail gyda pherl o ergyd o 30 llath. Dechreuodd Vaulks, Moore a Harry Wilson y gêm ddi sgôr yn Huddersfield hefyd.
Roedd hi’n wythnos dda i Abertawe yn ogystal, yn ennill dwy gêm o ddwy gôl i un, y naill yn erbyn Stoke ganol wythnos a’r llall yn erbyn Middlesbrough ddydd Sadwrn. Parhaodd Connor Roberts gyda’i dymor gwych gyda gôl a pherfformiad seren y gêm yn erbyn Stoke ac roedd yntau a Ben Cabango yn y tîm eto wrth iddynt gipio’r tri phwynt gyda gôl hwyr yn erbyn Boro ar y penwythnos.
Ar ôl colli yn erbyn yr Elyrch, cafodd Stoke well hwyl arni wrth groesawu Wycombe ddydd Sadwrn. Agorodd Rhys Norrington-Davies y sgorio gyda gôl unigol dda yn dilyn rhediad penderfynol i’r cwrt cosbi. Chwaraeodd James Chester a Joe Allen hefyd wrth i’r Potters ennill o ddwy i ddim yn y diwedd. Roedd Joe Jacobson yn nhîm Wycombe ond mae’n edrych yn gynyddol debyg y bydd y tîm ar y gwaelod yn dychwelyd i’r Adran Gyntaf ar ddiwedd y tymor.
Chwaraeodd Ched Evans yng ngêm gyfartal Preston yn Bournemouth ddydd Sadwrn. Ni sgoriodd y blaenwr yn y gêm honno ond fe wnaeth rwydo gôl wych ganol wythnos, foli felys yn erbyn Millwall. Nid oedd David Brooks yng ngharfan Bournemouth oherwydd anaf ac ar y fainc yr oedd Chris Mepham.
Prin iawn yr oedd y munudau i’r Cymry yn y gynghrair fel arall ond fe gafodd George Thomas ddeg munud prin ym muddugoliaeth QPR yn erbyn Bristol City.
*
Cynghreiriau is
Chwaraeodd Brennan Johnson ran ganolog ym muddugoliaeth Lincoln yn erbyn Crewe. Creodd y Cymro’r gôl gyntaf cyn sgorio’r drydedd ei hun mewn buddugoliaeth gyfforddus. Roedd Regan Poole yn rhan o’r amddiffyn a gadwodd lechen lân yn y pen arall hefyd.
Mae’r canlyniad hwnnw yn cadw’r Imps yn drydydd yn y tabl, ddau safle uwch ben Doncaster, a gafodd fuddugoliaeth o ddwy gôl i un yn erbyn Plymouth. Dechreuodd Matthew Smith i Donny a Luke Jephcott i Argyle.
Tîm arall sy’n brwydro am y chwe safle uchaf yw Portsmouth ond colli fu eu hanes hwy yn Northampton er gwaethaf gôl gysur Ellis Harrison.
Collodd Ipswich dir ar y safleoedd ail gyfle wrth golli yn Gillingham. Dechreuodd James Wilson yng nghanol yr amddiffyn eto ar ôl sgorio yn erbyn Accrington ganol wythnos ac fe ddaeth Gwion Edwards oddi ar y fainc wrth i Fois y Tractor golli o dair gôl i un.
Sgoriodd Wes Burns ei ail gôl mewn tair gêm wrth i Fleetwood guro’r Amwythig. Agorodd y Cymro’r sgorio yn y fuddugoliaeth o ddwy gôl i ddim, yn rhedeg gyda’r bêl o’i hanner ei hun cyn taro chwip o ergyd o 25 llath.
Gêm gyfartal a gafodd cymdogion Fleetwood, Blackpool, wrth iddynt groesawu Wimbledon. Un gôl yr un oedd hi gyda Chris Maxwell yn chwarae yn y gôl i’r Tangerines.
Yn dilyn perfformiad da yn erbyn Wigan ganol wythnos, Adam Matthews a ddechreuodd yn safle’r cefnwr dde wrth i Charlton deithio i Rydychen ar y penwythnos. Bu’n rhaid iddo adael y cae wedi deunaw munud serch hynny oherwydd anaf, a’i gyd Gymro, Chris Gunter, a chwaraeodd weddill y gêm ddi sgôr.
Roedd hi’n brynhawn i’w anghofio i Cian Harries wrth i’w dîm, Bristol Rovers, golli yn Hull. Y Cymro a oedd ar fai am y gôl gyntaf o ddwy eu gwrthwynebwyr. Ac ni fydd Joe Ledley yn ymuno â’r tîm o Fryste wedi’r cwbl, ni chafodd gynnig cytundeb gan y rheolwr, Joey Barton, ar ôl cyfnod yn hyfforddi gyda nhw.
Dychwelodd Casnewydd i safleoedd ail gyfle’r Ail Adran gyda buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim yn Colchester. Chwaraeodd Liam Sheppard a Josh Sheehan y gêm gyfan, gyda Sheehan yn creu’r gôl agoriadol i Joss Labadie.
Mae Bolton yn aros yn y safleoedd ail gyfle hefyd yn dilyn gêm gyfartal yn Bradford. Chwaraeodd Gethin Jones, Declan John, Jordan Williams a Lloyd Isgove.
*
Yr Alban a thu hwnt
Chwaraeodd Ash Taylor yng ngêm ddi sgôr Aberdeen yn erbyn Hamilton ddydd Sadwrn a daeth Christian Doidge ymlaen fel eilydd wrth i Hibs golli yn St Johnston.
Dechreuodd Aaron Ramsey i Juventus yn erbyn Lazio nos Sadwrn a’r Cymro a enillodd y gic o’r smotyn holl bwysig a seliodd y fuddugoliaeth o dair gôl i un.
Chwaraeodd James Lawrence ei ran mewn llechen lân i amddiffyn St. Pauli mewn gêm ddi sgôr yn erbyn Karlsruher yn y 2. Bundesliga.
Colli fu hanes Isaac Christie-Davies gyda Danajska Streda yn erbyn Slovan Bratislava ym mhrif gynghrair Slofacia ddydd Sadwrn.
Roedd hi’n benwythnos distaw i Gymry’r cyfandir fel arall. Nid oedd Andy King yn nhîm Leuven yng Ngwlad Belg ac eilyddion heb eu defnyddio a oedd Robbie Burton a Dylan Levitt i’w timau yng Nghroatia.