Mae gêm gyfartal Celtic oddi cartref yn Dundee United yn golygu mai eu cymdogion a’u gelynion pennaf Rangers yw pencampwyr Uwch Gynghrair yr Alban.
Dim ond buddugoliaeth i Celtic fyddai wedi golygu gohirio dathliadau’r tîm sy’n chwarae yn Ibrox, wrth iddyn nhw fynd am dlws y gynghrair am y tro cyntaf ers degawd.
Roedd Rangers, serch hynny, yn wastraffus gyda golwr Dundee United Benjamin Siegrist ar ei orau rhwng y pyst.
Mae gan Rangers flaenoriaeth o 20 pwynt gyda chwe gêm yn weddill, gyda dim ond 18 o bwyntiau’n weddill i Celtic gau’r bwlch.
A bydd y cymdogion yn herio’i gilydd yn Celtic Park ar Fawrth 21, gyda Rangers yn mynd yno’n bencampwyr.
Roedd Celtic wedi ennill 12 o dlysau’n olynol cyn hyn ond mae eu perfformiadau’r tymor hwn wedi arwain at ymadawiad y rheolwr Neil Lennon.
Rhybudd i beidio ag ymgynnull i ddathlu
Mae un o weinidogion Llywodraeth yr Alban a’r heddlu’n rhybuddio cefnogwyr Rangers i beidio ag ymgynnull i ddathlu’r fuddugoliaeth fawr.
Ond mae torfeydd eisoes wedi dod ynghyd yn stadiwm Ibrox, cartref Rangers, ac yng nghanol dinas Glasgow.
Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n ymwybodol o sawl digwyddiad sydd wedi cael eu trefnu.
Ond mae Humza Yousaf, Ysgrifennydd Cyfiawnder yr Alban, yn gofyn i bobol aros gartref ac yn eu hatgoffa fod Glasgow yn gobeithio cynnal gemau’r Ewros ac y gallai ymgynnull beryglu hynny wrth i UEFA gadw llygad ar y sefyllfa.
Mae cefnogwyr Rangers eisoes wedi torri’r rheolau, wrth ymgynnull ger Ibrox ddoe (dydd Sadwrn, Mawrth 7) ond mae’r heddlu’n dweud na chafodd unrhyw un ei arestio ond y byddan nhw’n gweithredu’n “briodol” yn erbyn unrhyw un sy’n torri’r gyfraith.