Mae Clwb Pêl-droed Hwlffordd, sy’n chwarae yng nghynghrair JD Cymru Premier, wedi denu cefnwr Cymru, Jazz Richards.
Mae’r trosglwyddiad yn ddibynnol ar sêl bendith Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ac fe allai fod ar gael i herio Aberystwyth nos Fawrth (Mawrth 9).
Mae e wedi ennill 14 o gapiau dros ei wlad.
Chwaraeodd e 39 o weithiau i Abertawe a 47 o weithiau i Gaerdydd, ac roedd e’n aelod o garfan Cymru oedd wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Ewro 2016.
“Rydym wrth ein boddau o gwblhau trosglwyddiad Jazz,” meddai’r cadeirydd Rob Edwards.
“Mae e’n broffesiynol dros ben ac mae e wedi chwarae ar y lefel uchaf i’w glybiau a’i wlad.
“Bydd ei allu, ei brofiad a’i wybodaeth am y gêm yn ased enfawr am weddill y tymor, ac fe fydd yn ddiau yn codi safonau’r rheiny o’i gwmpas e hefyd.”
‘O un Adar Gleision i’r nesaf’
Mae Jazz Richards wedi dweud wrth Sgorio ei fod e’n mynd “o un Adar Gleision i’r nesaf”.
“Wnes i orffen gyda Chaerdydd y tymor diwethaf a do’n i wir ddim yn gwybod beth o’n i eisiau ei wneud nesaf,” meddai.
“Ro’n i’n gobeithio mynd dramor a daeth ambell beth arall i fyny, ond ro’n i’n agos iawn at roi’r gorau i bêl-droed yn llwyr.
“Ges i’r cyfle i ddod yma a chwarae gemau ac ar ddiwedd y dydd, dyna ro’n i eisiau ei wneud.
“Hefyd, o ran mwynhau, dw i’n nabod rhai o’r bois ac maen nhw’n griw da o fois a dw i’n gweld eisiau cicio pêl, ond dw i ddim wir yn gweld eisiau popeth arall sy’n dod gyda hynny.
“Roedd yn fater o ffeindio’r mwynhad eto, roedd cyfle i ddod yma ac fe gymerais i hwnnw a dw i’n ddiolchgar i Wayne [Jones, y rheolwr] a’r staff eraill sydd wedi fy nghroesawu.”