Mae Willis Halaholo, canolwr tîm rygbi Cymru, wedi datgelu manylion am ei fagwraeth yn Seland Newydd, gan ddweud sut y bu iddo ddianc rhag bywyd o gangiau ac alcohol a dod yn chwaraewr rygbi rhyngwladol gyda Chymru.

Mae’r chwaraewr 30 oed yn gymwys i gynrychioli Cymru ar ôl bod yn byw yn y wlad ers 2016.

Ac fe ddaeth e i’r cae yn eilydd yn y gemau yn erbyn yr Alban a Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, wrth i Gymru ennill y Goron Driphlyg a mynd gam yn nes at y Gamp Lawn.

Y disgwyl yw y bydd e’n dechrau’r gêm yn erbyn yr Eidal yr wythnos nesaf.

Ond fe allai ei fywyd fod wedi bod yn wahanol iawn.

Yn ogystal â bod yn rhan o gangiau a llithro i fywyd o yfed alcohol, fe ddaeth e’n dad i ferch fach pan oedd e yn yr ysgol uwchradd.

“Ro’n i’n eitha’ ifanc yr oedran hynny ac fe wnaeth e effeithio ar fy mhen i rywfaint, ac fe es i i lawr trywydd gwahanol wrth yfed a dod yn rhan o ddiwylliant gangiau,” meddai.

“Yn ôl yr arfer, ro’n i’n mynd o gwmpas gyda’r bois ar y bloc, fe ddigwyddodd hynny am sawl blwyddyn ond dw i jyst yn hapus fy mod i wedi troi pethau o gwmpas.

“Pan oedd fy merch yn fisoedd oed, do’n i ddim yn gwybod llawer am fod yn dad.

“Do’n i ddim yn gwybod llawer hyd nes ei bod hi’n ddwy neu dair oed ac yn dechrau cerdded.

“Hyd hynny, ro’n i’n teimlo fel dieithryn iddi a dyna pryd y dechreuais i newid pethau, ac fe gyrhaeddais i yno jyst mewn pryd.

“Ryw wyth neu naw mlynedd yn ôl, penderfynais i roi cynnig go dda ar rygbi.

“Fe wnes i ollwng yr holl arferion drwg, bwrw iddi a dechrau gweithio’n galed o’r diwedd.”

Wayne Pivac yn hyfforddi Auckland

Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, oedd hyfforddwr Auckland ar y pryd.

Ond oherwydd ei amgylchiadau personol ar y pryd, gadawodd Willis Halaholo i geisio datblygu ei yrfa.

“Rydyn ni wedi cyfarfod eto ac mae e wedi fy newis i nawr, felly dw i’n hapus gyda hynny,” meddai.

Ar ôl dioddef anaf i’w ben-glin  gorfod cael triniaeth, roedd e allan am rai misoedd cyn cael ei ddewis eto ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ac ennill ei gap cyntaf yn erbyn yr Alban ym Murrayfield.

Mae’n dweud ei fod e bellach yn cymryd ei yrfa “un dydd ar y tro, un cam ar y tro”.

Aberth y teulu

Mae’n dweud bod ei deulu wedi gwneud aberth wrth symud o ynys Tonga i Seland Newydd.

“Mae’n beth arbennig iawn, yn enwedig i’r teulu gartref, sydd wedi gweithio mor galed er mwyn i ni lwyddo,” meddai.

“Symudon nhw o ynys Tonga heb air o Saesneg ac fe ddysgon nhw iaith newydd, jyst er mwyn darparu.

“Y cyfan maen nhw wedi bod ei eisiau erioed yw i’w plant lwyddo, ac mae’n debyg fod fy ngweld i’n cyrraedd y lefel yma wedi eu gwneud nhw’n falch iawn.

“Maen nhw wedi bod yn gwylio yn Auckland, felly bob nos Sadwrn maen nhw’n symud eu gwely i’r lolfa ac yn paratoi i ddihuno am bump neu chwech o’r gloch yn y bore gyda fy nheulu.

“Mae fy mrawd a’i blant yn dod draw nos Sadwrn, ac maen nhw i gyd yn cysgu yn y lolfa yn barod i wylio’r gêm.

“Dw i wedi cael llawer o negeseuon gan fois a chefndryd hŷn ac ati oedd wedi fy ngweld i ar fy ngwaethaf yn dod allan o’r ysgol uwchradd ac yn gwneud pethau na ddylwn i fod wedi’u gwneud.

“Dydyn nhw, hyd yn oed, ddim yn gallu credu lle dw i wedi cyrraedd, ac maen nhw’n falch iawn.”

Willis Halaholo, y Cymro balch o Seland Newydd

“Mae gen i ddwy ferch sydd wedi eu geni yma yng Nghymru – sy’n gwneud y wlad hon yn ran ohonaf ac yn ran o fy nghalon”