Mae awdurdodau rygbi wedi cadarnhau bod Cwpan Rygbi’r Byd y merched wedi’i ohirio tan 2022.
Roedd disgwyl i’r gystadleuaeth gael ei chynnal yn Seland Newydd rhwng Medi 18 a Hydref 16 eleni.
Ansicrwydd a risg ynghylch teithio diogel a dibynadwy i fwy na 600 o chwaraewyr a staff yw’r prif reswm y tu ôl y penderfyniad.
Gwnaed y penderfyniad i ohirio’r twrnament yn dilyn trafodaethau rhwng Rygbi Seland Newydd, Llywodraeth Seland Newydd ac undebau rygbi’r byd.
Fel rhan o’r cynlluniau, mae’r awdurdodau wedi cadarnhau y bydd £2m yn cael ei fuddsoddi yng ngêm y merched i ddarparu cystadleuaeth ryngwladol i dimau i roi’r cyfle iddyn nhw fod ar eu gorau yn Seland Newydd y flwyddyn nesaf.
‘Siomedig’
“Mae’r holl chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr a oedd yn paratoi ac yn edrych ymlaen at Gwpan Rygbi’r Byd 2021 eleni ar flaen fy meddwl,” meddai Syr Bill Beaumont, cadeirydd World Rugby.
“Rydym yn cydnabod y byddant yn hynod siomedig, ond hoffwn egluro bod y penderfyniad i ohirio wedi’i wneud er eu lles nhw ac i roi cyfle i baratoi i gynnal twrnamaint uchel i barch i rygbi merched.
“O ystyried nifer yr athletwyr a’r hyfforddwyr sy’n cyrraedd o nifer o leoliadau, mae datblygiadau diweddar Covid-19 yn golygu nad yw’n bosibl sicrhau’r amodau gorau posibl i bob tîm baratoi ar gyfer y digwyddiad.
“Mae’r chwaraewyr gorau yng ngêm y merched angen y llwyfan y maent yn ei haeddu, gyda’r cyfle i’w teulu a’u ffrindiau allu mynychu, a hefyd y teulu rygbi cenedlaethol a rhyngwladol ehangach.
“Bydd gohirio am flwyddyn yn ein galluogi i weld manteision y rhaglen frechu fyd-eang, gan alluogi teithio rhyngwladol ac o fewn Seland Newydd ei hun.”
Bydd dyddiadau ar gyfer y twrnament gohiriedig yn Auckland a Whangarei yn cael eu cyhoeddi’n fuan.