Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd eu prif weithredwr Jonathan Ford yn gadael ei swydd ar ddiwedd y mis.

Fe fu cryn ddyfalu am ei ddyfodol ers tro: roedd Ford, a benodwyd yn ôl yn 2009, yn destun pleidlais o ddiffyg hyder gan Gyngor llywodraeth Cymru y mis diwethaf ac fe’i rhoddwyd ar ‘absenoldeb garddio’.

Deellir hefyd fod y cynnig o ddiffyg hyder yn Ford wedi’i basio gyda mwyafrif llethol.

‘Dim sylw pellach’

Mewn datganiad, dywed y Gymdeithas Bêl-droed na fyddan nhw’n gwneud sylw pellach.

Ond maen nhw wedi tynnu sylw at ddatblygiad y Gymdeithas ers iddo gymryd yr awenau yn 2009.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Canolfannau Hyfforddi a Datblygu wedi cael eu datblygu’n sylweddol yng Nghasnewydd a Wrecsam, yn ogystal â Chanolfan Elit Genedlaethol a phencadlys y Gymdeithas yng Nghastell Hensol ym Mro Morgannwg.

Mae Cymru hefyd wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, gan gynnwys Pencampwriaeth dan 19 Ewrop y Merched, Super Cup UEFA yn 2014 a rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr y dynion a’r merched yn 2017.

Cyrhaeddodd tîm y dynion rownd gyn-derfynol Ewro 2016, gan gymhwyso ddwywaith yn olynol am y tro cyntaf erioed, ac fe gawson nhw ddyrchafiad i Gynghrair A Cynghrair y Cenhedloedd y llynedd wrth orffen ar y brig.

“Hoffai Cymdeithas Bêl-droed Cymru gofnodi eu diolch i Mr Ford am ei ymdrechion dros yr 11 o flynyddoedd diwethaf, a dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol,” meddai’r Gymdeithas mewn datganiad.

“Fydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddim yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.”

Cefndir

Mae adroddiadau bod llawer o glybiau yng Nghymru wedi eu siomi gan y ffordd y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ymdrin â pandemig Covid-19 – a’r methiant canfyddedig i’w cefnogi yn ystod yr argyfwng.

Fodd bynnag, mae Wales Online wedi adrodd mai’r ysgogiad ar gyfer y bleidlais diffyg hyder yn y lle cyntaf oedd penodiad diweddar Angela van den Bogerd i swydd ‘Pennaeth Pobl’ yn y Gymdeithas Bêl-droed.

Angela van den Bogerd oedd cyfarwyddwr gwella busnes Swyddfa’r Post yn faenorol, ac fe’i beirniadwyd gan farnwr mewn achos sy’n deillio o garcharu grŵp o bostfeistri ar gam.

Argyfwng?

Mae ymadawiad Ford yn gadael y Gymdeithas Bel-droed mewn argyfwng o fath, a hynny dim ond 15 diwrnod cyn eu gêm gymhwyso agoriadol ar gyfer Cwpan y Byd yn erbyn Gwlad Belg yn Leuven, ac ychydig dros dri mis cyn twrnamaint gohiriedig Ewro 2020.

Cafodd y rheolwr, Ryan Giggs, ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei gariad yn ei gartref ym Manceinion ar 1 Tachwedd ac mae ffeil yr achos yn cael ei hystyried ar hyn o bryd gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

Mechnïaeth Ryan Giggs wedi’i ymestyn

Cafodd Giggs ei arestio ym mis Tachwedd ac mae ffeil yr achos yn parhau i fod gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron
Crys coch, a logo'r Gymdeithas Bel-droed ar y frest

Amheuon am ddyfodol prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Adroddiadau bod Cyngor y Gymdeithas Bêl-droed wedi cyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn Jonathan Ford