Bydd tri o dimau pêl-droed Cymru’n chwarae yng nghynghreiriau Lloegr heno (nos Fawrth, Mawrth 9), gydag Abertawe’n teithio i Blackburn, Wrecsam yn teithio i Barnet a Chasnewydd yn herio Bradford yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae gan yr Elyrch obaith o godi i’r safleoedd dyrchafiad awtomatig gyda phwynt neu dri ym Mharc Ewood am 6 o’r gloch.

Maen nhw’n drydydd yn y tabl yn dilyn buddugoliaethau dros Stoke a Middlesbrough, a hynny un safle ac un pwynt islaw Watford sy’n ail ar ôl chwarae dwy gêm yn llai.

Maen nhw wedi cael tair buddugoliaeth yn eu pedair gêm diwethaf.

Cafodd y gêm yn erbyn Blackburn ei gohirio ym mis Ionawr oherwydd fod y cae yn rhy wlyb.

Roedd Blackburn heb fuddugoliaeth mewn saith gêm cyn curo Millwall dros y penwythnos.

Casnewydd

Mae Casnewydd ar frig yr Ail Adran ar ôl curo Colchester.

Pedwar pwynt sydd rhyngddyn nhw a Bradford yn dilyn rhediad da’r ymwelwyr, ac mae’r Bantams yn ddegfed yn y tabl gyda safleoedd y gemau ail gyfle o fewn cyrraedd.

Does gan Gasnewydd ddim anafiadau, ond mae’r ymwelwyr heb eu prif sgoriwr Lee Novak, yn ogystal â Harry Pritchard, Zeli Ismail a Bryce Hosannah, ond gallai Gareth Evans ddychwelyd.

Wrecsam

Ar ôl cipio pwynt gwych yn erbyn Sutton, mae sylw Wrecsam yn troi at daith i Barnet, sydd wedi cael eu heffeithio’n sylweddol gan Covid-19 y tymor hwn.

Fe gollodd Barnet eu rheolwr Darren Currie dros yr haf, yn ogystal â sawl chwaraewr, am resymau ariannol yn ymwneud â’r pandemig.

Wnaeth ei olynydd Peter Beadle ddim para’n hir yn y swydd, gan gwyno am ymroddiad y chwaraewyr.

Maen nhw ar rediad gwael ar hyn o bryd, ar ôl colli 12 allan o’u 13 gêm diwethaf.

Dydyn nhw ddim wedi cadw llechen lân ers 13 o gemau, gan ennill dim ond un ohonyn nhw a gorffen dwy arall yn gyfartal a cholli’r gweddill.