Sgoriodd Andre Ayew o’r smotyn am y bedwaredd gêm yn olynol wrth i dîm pêl-droed Abertawe orffen yn gyfartal 1-1 yn Blackburn yn y Bencampwriaeth heno (nos Fawrth, Mawrth 9).

Mae’r canlyniad yn golygu bod yr Elyrch wedi colli cyfle i godi i’r safleoedd dyrchafiad awtomatig.

Aeth Blackburn ar y blaen ar ôl 36 munud drwy Bradley Dack ond fe allen nhw fod wedi mynd ar y blaen yn ystod munudau agoriadol y gêm gyda gwaedd am gic o’r smotyn wrth i Tyrhys Dolan droi i drosglwyddo’r bêl i Ben Brereton a gafod ei daclo gan Marc Guehi.

Daeth sawl cyfle i Blackburn cyn iddyn nhw sgorio, ac fe wnaeth Dack fanteisio ar ôl symudiad rhyngddo fe, Brereton a Tom Trybull wrth ergydio heibio i Freddie Woodman.

Cafodd Jay Fulton ei lorio yn y cwrt cosbi cyn i Ayew gamu i fyny i’w gwneud hi’n 1-1 ar ddiwedd hanner digon blêr.

Daeth Guehi oddi ar y cae ar yr egwyl ag anaf i’w goes a pharhau i bwyso’n ofer wnaeth Blackburn wrth i amddiffyn yr Elyrch fynd ar chwâl ar adegau.

Er i Yan Dhanda a Korey Smith ddod i’r cae, wnaeth yr Elyrch ddim llwyddo i fynd ar y droed flaen am gyfnodau digon hir i greu cyfleoedd a byddan nhw’n teimlo ochenaid o ryddhad wrth ddod adref o Barc Ewood â phwynt.

Mae’r Elrych yn gyfartal â Watford yn yr ail safle, ond dydy eu gwahaniaeth goliau ddim cystal ond mae Watford wedi chwarae un gêm yn fwy.

Ymateb Steve Cooper

“Yn sicr yn yr hanner cyntaf, do’n i ddim yn ein hoffi ni o gwbl,” meddai Steve Cooper.

“Nid dyna’r tîm dw i eisiau i ni fod yn nhermau ein steil a’n hunaniaeth.

“Os ydyn ni am wneud camgymeriadau, dw i eisiau i ni eu gwneud nhw yn ein ffordd ein hunain a nid dyna ddigwyddodd yn yr hanner cyntaf.

“Felly roedd angen mynd i’r afael â hynny.

“Ychydig yn well yn yr ail hanner, ond ddim yn wych, dw i’n deall hynny, a doedd hi ddim yn gêm wych gyda’r holl newidiadau ac roedd Blackburn wedi ymrwymo i gael cynifer o gyrff ym mlaen y cae a llenwi’r canol.

“Daeth hi’n gêm roedd angen ei rheoli, a dweud y gwir.

“Gallai hi fod wedi bod yn well, ond rhaid dweud y gallai hi fod wedi bod yn waeth hefyd.”