Cipiodd tîm pêl-droed Casnewydd fudddugoliaeth ddramatig bron i chwe munud i mewn i’r amser a ganiateir am anafiadau wrth iddyn nhw guro Bradford o 2-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn yr Ail Adran.

Sgoriodd Matty Dolan ddwy gôl ar ôl i dîm Mike Flynn fynd ar ei hôl hi wrth i Andy Cook sgorio i’r ymwelwyr.

Tarodd Dolan chwip o gic rydd i unioni’r sgôr, cyn iddo sgorio o’r smotyn gyda chic ola’r gêm ar ôl i chwaraewr Bradford lawio’r bêl yn y cwrt cosbi.

Mae’r Alltudion bellach yn chweched yn yr Ail Adran ar ôl bod ar y brig yn ystod hanner cynta’r tymor, ond maen nhw’n dal i frwydro am le yn y gemau ail gyfle.