Mae tîm pêl-droed Wrecsam wedi curo Barnet oddi cartref o 2-0 yn y Gynghrair Genedlaethol.

Mae Barnet bellach wedi colli 12 allan o’u 13 gêm diwethaf yn y Gynghrair Genedlaethol, sy’n eu gadael h yn y gwaelodion.

Sgoriodd Luke Young gôl gyntaf Wrecsam gyda chwip o ergyd bedair munud cyn yr egwyl.

Tarodd Elliott Durrell ergyd o bell i ddyblu mantais ei dîm, sy’n aros yn bumed yn y tabl.