Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd Robert Page wrth y llyw ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Gwlad Belg a’r Weriniaeth Tsiec a’r gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico y mis yma.

Cafodd Giggs ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei gariad yn ei gartref ym Manceinion ar 1 Tachwedd ac mae ffeil yr achos yn cael ei hystyried ar hyn o bryd gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

Mae felly’n parhau ar fechnïaeth – cyfnod a ymestynwyd ddiwedd y mis diwethaf.

Bydd Cymru’n herio Gwlad Belg ar Fawrth 24, Mecsico ar Fawrth 27 a’r Weriniaeth Tsiec ar Fawrth 30.

Bydd Robert Page yn cael ei gynorthwyo gan Albert Stuivenberg, a bydd y garfan yn cael ei chyhoeddi ddydd Llun nesaf (Mawrth 15).

Daw’r cyhoeddiad hwn ddiwrnod ar ôl i’r Gymdeithas Bêl-droed gadarnhau y bydd y prif weithredwr, Jonathan Ford, yn gadael ei swydd ddiwedd y mis yn dilyn pleidlais o ddiffyg hyder.

Mewn datganiad, dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru na fyddan nhw’n gwneud sylw pellach am y tro.

Ryan Giggs

Ryan Giggs yn camu o’r neilltu dros dro ar ôl cael ei arestio

Bydd Robert Page yn gyfrifol am y tîm cenedlaethol yn ei absenoldeb

Ryan Giggs wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymwybodol o ddigwyddiad honedig sy’n ymwneud â rheolwr tîm cenedlaethol y dynion, Ryan Giggs.”