Mae teulu Emiliano Sala, pêl-droediwr Caerdydd, am ddwyn achos yn sgil ei farwolaeth mewn awyren dros y Sianel ddwy flynedd yn ôl.
Yn ôl cyfreithwyr y teulu, maen nhw wedi troi at yr Uchel Lys er mwyn “gwarchod eu hawliau cyfreithiol”.
Plymiodd awyren oedd yn cludo’r Archentwr 28 oed i’r môr ger ynys Guernsey ar Ionawr 21, 2019 wrth iddi ei gludo o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd.
Dydy’r awdurdodau erioed wedi gallu dod o hyd i gorff y peilot David Ibbotson, 59 oed o Swydd Lincoln.
Mae disgwyl i David Henderson, trefnydd honedig yr hediad, fynd gerbron llys ym mis Hydref i wynebu cyhuddiad o beryglu diogelwch awyren a cheisio rhyddhau teithiwr heb ganiatâd nac awdurdod.
Mae manylion am yr achos yn yr Uchel Lys wedi dod i’r fei cyn gwrandawiad cyn cwest yn Bournemouth heddiw (dydd Mercher, Mawrth 10).
Mae disgwyl i’r teulu ohirio’r achos tan bod y cwest wedi’i gwblhau.
Yn ôl cyfreithiwr y teulu, bydd y cwest yn gyfle i gael “atebion i’r cwestiynau niferus sydd ganddyn nhw am yr hyn aeth o’i le fis Ionawr 2019 a pham fod bywyd Emiliano wedi’i gwtogi”.
Daeth adroddiad Cangen Ymchwilio Damweiniau Awyr i’r casgliad fod yr awyren wedi torri i fyny yn yr awyr wrth iddi gael ei hedfan yn rhy gyflym, a bod y peilot wedi colli rheolaeth arni yn sgil tywydd garw.
Mae lle i gredu hefyd fod David Ibbotson wedi’i wenwyno gan garbon monocsid, a doedd e ddim wedi cael ei hyfforddi i hedfan awyrennau yn y nos.
Roedd ganddo fe drwydded nad oedd yn rhoi’r hawl iddo fe gludo teithwyr yn gyfnewid am roddion ariannol neu fel arall.