Mae hi’n 50 mlynedd i’r diwrnod ers i Gaerdydd guro Real Madrid o 1-0 yng nghymal cyntaf rownd gogynderfynol Cwpan Enillwyr Cwpan Ewrop (European Cup Winners’ Cup) ar Fawrth 10 1971.
Roedd hi’n noson gyffrous yng Nghaerdydd, wrth i filoedd o gefnogwyr wasgu i mewn i Barc Ninian, gyda’r gic gyntaf am 7:30yh.
Roedd yr Adar Gleision, oedd yn chwarae yn yr hen Ail Adran (Division Two) ar y pryd, wedi cymhwyso ar gyfer y twrnament drwy ennill Cwpan Cymru y tymor cynt.
Ar y ffordd i herio Real Madrid, roedd y tîm wedi trechu Pezoporikos o Cyprus o 8-0 dros ddau gymal yn y rownd gyntaf, cyn curo FC Nantes 7-2 dros ddau gymal yn yr ail rownd.
Ar y llaw arall, roedd Los Blancos wedi ennill y Copa del Rey er mwyn cymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth.
Dyma dîm oedd wedi rheoli’r gêm ddomestig yn Sbaen, gan ennill y gynghrair dair gwaith yn olynol rhwng 1966-69.
Un dyn sy’n cofio’r achlysur yn dda ydi cyn amddiffynnwr Caerdydd wnaeth chwarae yn y gêm, Gary Bell.
“Roedd dim ond y ffaith ein bod yn chwarae yn erbyn Real Madrid yn wych,” meddai wrth wefan swyddogol Clwb Pêl-droed Caerdydd.
“O’r eiliad y cafodd y timau eu tynnu o’r het, roedd holl ddinas Caerdydd yn fwrlwm i gyd.
“Roedden nhw i gyd yn edrych ymlaen gymaint at y gêm… roedd pawb yn barod amdani ac roedd y galw am docynau yn anghredadwy.
“Rwy’n credu mai 47,500 oedd y nifer swyddogol o bobol a oedd yn bresennol ond ar y diwrnod, byddwn wedi meddwl ei fod yn debycach i 60,000 – roedd hi’n chock-a-block!
“Roedden ni wedi chwarae o flaen torfeydd tebyg i hynny yn y blynyddoedd cynt.
“Roeddem wedi herio Arsenal yng Nghwpan yr FA a oedd wedi denu 55,000 i Barc Ninian ar y diwrnod, ond roedd y noson honno’n werth ei gweld.”
“Ni oedd y tîm gorau”
Brian Clark oedd y dyn sgoriodd yr unig gôl y noson honno, gyda’i bedwaredd gôl yn y twrnament, a fe oedd prif sgoriwr y clwb y tymor hwnnw yn y pen draw.
Roedd yr Adar Gleision wedi gwerthu’r ymosodwr ifanc John Toshack i Lerpwl ychydig fisoedd ynghynt, ond roedd yno dal ddigon o goliau yn y tîm.
Wrth drafod y gêm, dywedodd Gary Bell ei bod hi “wedi dechrau ychydig yn dynn am y deng munud cyntaf”.
“Ond ar ôl i ni ddod mewn i rythm y gêm a dod o hyd i’n traed dwi’n meddwl mai ni oedd y tîm gorau,” meddai.
“Roeddwn i wedi ennill y bêl gyda thacl hanner ffordd y tu mewn i’n hanner ein hunain a’i phasio i Bobby Woodruff.
“Pasiodd yntau i’n hasgellwr chwith Nigel Rees, a roddodd groesiad gwych i ddod o hyd i Brian Clark a oedd yn dod i mewn i’r cwrt cosbi i benio’r bêl i gefn y rhwyd,
“Roedd Real Madrid yn dîm gwych i gael chwarae yn eu herbyn, i bawb oedd yn gysylltiedig â’r clwb.
“Fe wnaeth y gêm honno i ni deimlo y gallem gyrraedd y rownd derfynol.”
Y gêm oddi cartref
Ond wrth gwrs, roedd yn rhaid i’r Adar Gleision deithio i Madrid i herio Los Blancos yn y Santiago Bernabéu.
“Roedd y gefnogaeth yn wych i’r gêm oddi cartref, wrth gwrs,” meddai Gary Bell.
“Rwy’n credu bod tua dwy awyren yn llawn cefnogwyr Caerdydd wedi gwneud y daith i’r Bernabeu, a oedd wir yn rhywbeth arbennig.
“Roedd chwarae yn y Bernabeu yn wych. Mae hi’n stadiwm wych, ac roedd gennych deimlad gwirioneddol am hanes y lle unwaith yr oeddech yno.”
Byddai Real Madrid yn sgorio dwy gôl yn ail hanner y gêm honno, a oedd y ddigon i guro Caerdydd 2-1 dros y ddau gymal, gan ddod ag antur Ewropeaidd Caerdydd i ben.
“Un o brif atgofion unrhyw un oedd yn dilyn y clwb”
Wrth drafod y gêm gyda golwg360, dywedodd Phil Stead ei bod hi’n “un o brif atgofion unrhyw un oedd yn dilyn y clwb cyn llwyddiant y ganrif yma.”
“Roedd y ffaith ein bod ni wedi curo (Real Madrid) yn bwysig i’r cefnogwyr.
“Roedd pawb yn dod â’r gêm i fyny yn aml, ac roedd hyn cyn y rhyngrwyd ac ati, felly roedden ni’n sôn am y gêm er ein bod ni erioed wedi gweld hi.
“Dw i’n cofio cael sioc fod Real Madrid yn gwisgo coch ar ôl gweld lluniau ohoni.
“Roedd Caerdydd yn dîm cryf iawn bryd hynny, ac ar dop Division 2 cyn gwerthu Toshack – a wedyn methu allan ar ddyrchafiad a gorffen yn bedwerydd.
“Roedd yno deimlad ymysg y cefnogwyr bod y clwb wedi gwerthu Toshack am ei bod nhw ofn costau’r Uwch-Gynghrair – roedd o’n dangos bod y clwb yn hapus i aros y Division 2… dim uchelgais o gwbl.
“Mae gwerthu Toshack fel rhyw fath o myth os ti’n siarad gyda gyrwyr tacsis Caerdydd, mi wnawn nhw ddweud lot wrtha ti bo’ nhw wedi stopio mynd i gemau ar ôl gwerthu Toshack.
“Brian Clarke, y dyn sgoriodd y gôl (yn erbyn Real Madrid), oedd partner Toskack – Toshack oedd yr ymosodwr cryf a mawr, tra bod Clarke yn gyflym ac yn llai.
“Dydi hi’n ddim syndod mai ef sgoriodd y gôl, roedd o’n chwaraewr o safon uchel ac mae o’n arwr i gefnogwyr Caerdydd ers iddo sgorio’r gôl honno.”
Ond ydi Phil Stead yn credu fod y fuddugoliaeth yn erbyn Real Madrid yr un mor fyw ym meddyliau cefnogwyr yr Adar Gleision y dyddiau yma â’r ganrif ddiwethaf?
“Nac ydw, mae hi’n llai byw ym meddyliau’r cefnogwyr rŵan.
“Aethon ni ddim drwodd i’r rownd nesaf, colli o 2-0 i ddim yn Madrid wnaeth y tîm.
“Ond cyn 2008 doedd gena ni ddim llwyddiant i sôn amdano ers ennill Cwpan yr FA yn 1927 a dyrchafiad 1952 – felly roedd hyn yn rhywbeth yr oedden ni gyd yn dal arno, ac roedd y cefnogwyr hyn yn dal i gofio’r gêm.
“Ond mae’r clwb wedi cael mwy o lwyddiant ers hynny.”