Mae cyn-ganolwr Cymru a’r Llewod Jamie Roberts wedi arwyddo cytundeb newydd o flwyddyn gyda’r Dreigiau.

Mae’r chwaraewr 34 oed, sydd hefyd yn feddyg, wedi creu argraff ers ymuno â thîm rhanbarthol Casnesydd sy’n chwarae yng nghystadleuaeth y PRO14 Guinness, gan sgorio pedwar cais mewn 13 ymddangosiad

Dywedodd Roberts wrth wefan y Dreigiau: “Mae’r tymor wedi teimlo’n eithaf digyswllt ac, er gwaethaf canlyniadau cyffredinol y gêm, rwy’n credu’n gryf ein bod ar lwybr tuag i fyny.

“Mae’r twf o fewn y grŵp chwarae wedi bod yn amlwg ac rwyf wedi mwynhau rhannu syniadau a gweithio o dan y grŵp hyfforddi presennol ac arweinyddiaeth Dean (y cyfarwyddwr rygbi Dean Ryan).

“Wrth i ni barhau i dyfu ein hunaniaeth ac ymdrechu i wella a dod hyd yn oed yn fwy cystadleuol, rwy’n falch iawn o allu chwarae fy rhan am dymor arall.”

Gwnaeth Roberts, a aned yng Nghasnewydd, ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008 ac mae wedi ennill 94 o gapiau cymru.

Mae’r cyn-chwaraewr Caerdydd hefyd wedi chwarae yn Lloegr, Ffrainc a De Affrica ac roedd yn ffigwr allweddol ar deithiau’r Llewod yn 2019 a 2013.

Dywedodd Ryan: “Rydym wrth ein bodd bod Jamie yn mynd i fod o gwmpas am flwyddyn arall ac y gall barhau i gael effaith fawr yn ein hamgylchedd.

“Mae ei chwarae y tymor hwn wedi bod yn rhagorol ac mae wedi bod yn gatalydd i eraill godi eu gêm o’i gwmpas.

“Mae ei brofiad hefyd wedi bod yn amhrisiadwy wrth sefydlogi chwaraewyr iau yn ein carfan a gallant nawr barhau i elwa o weithio’n agos gydag ef.”