Ar drothwy’r gêm fawr rhwng yr Eidal a Chymru draw yn Rhufain, mae cyn-gapten Cymru sy’n sylwebu ar S4C wedi bod yn trafod yr ornest.

Mae Gwyn Jones yn credu bod gan Gymru’r cyfle i “glicio” am y tro cyntaf eleni yn erbyn “tîm gwana’r gystadleuaeth”.

Ac mae yn credu bod cyhoeddi’r tîm amser cinio ddydd Mawrth – ddeuddydd yn gynnar – “yn arwydd o hyder”.

“Mae yn amlygu bod Cymru yn hapus i’r gwrthwynebwyr gael dau ddiwrnod ychwanegol o wybod yn union pwy sydd yn chwarae.

“Ond i mi mae yn awgrymu bod Cymru yn canolbwyntio arnyn nhw eu hunain ac yn gwybod os wnawn nhw chwarae eu gêm nhw yn gywir, does fawr ddim y bydd yr Eidal yn gallu gwneud am y peth.

“Nid wyf yn synnu bod Cymru yn cychwyn gyda’u tîm cryfaf, fwy neu lai.

“Er iddyn nhw gipio Coron Driphlyg, mae yna deimlad ein bod eto i weld Cymru yn clicio.

“Bydd gallu chwarae ychydig bach mwy o rygbi yn erbyn tîm gwana’r gystadleuaeth yn gyfle i glicio…

“Os oes yna un gêm ar gyfer canfod eich rhythm, yr un yn erbyn yr Eidal yw honno.”

Gwella

Er nad yw’r rygbi ymosodol wedi llifo hyd yma, mae Gwyn Jones wedi talu teyrnged i waith y Cymry yn yr elfennau eraill o’r gêm.

“Mae’r sgrym, y lein, yr amddiffyn a’r ddisgyblaeth lawer iawn yn well na’r hyn welwyd yn yr Hydref,” meddai.

“Tra bo timau eraill wedi colli eu pennau, mae Cymru wedi bod yn hirben ac effeithiol, gan gymryd y rhan fwyaf o’u cyfleon a gwrthod ildio pwyntiau hawdd ar adegau tyngedfennol.”

Ac er ei fod yn croesi bysedd y daw buddugoliaeth rwydd i Gymru bnawn Sadwrn, mae gan Gwyn Jones un ofn.

“Fy ngobaith yw na fydd Cymru yn chwarae mewn gêm agos, ddramatig am unwaith.

“Byddai yn well gen i weld buddugoliaeth awdurdodol, unochrog, a hynny heb ddiodde’ unrhyw anafiadau, sy’n gosod y llwyfan ar gyfer cipio Camp Lawn.

“Ond fel y gwelwyd yn y Chwe Gwlad hyd yma, dyw pethau byth yn troi mas yn ôl y disgwyl.”

Yr Eidal v Cymru yn fyw ar S4C am 1.30 bnawn Sadwrn